Cofio Eisteddfod 1952

Cip yn ôl – Eisteddfod 1952 ar ffilm

gan Iestyn Hughes

Eisteddfod Aberystwyth 1952 – ffilm (di-sain) o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, gan y diweddar Mr E C Roberts. Mae nifer o ffilmiau Mr Roberts, a fu’n aelod staff amlwg yn y Llyfrgell,  i’w canfod yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru – y mwyaf poblogaidd/enwog efallai – ‘Nant-y-moch’.

 

Cafodd nifer fawr o ffilmiau amatur AGSSC eu digido fel rhan o gynllun cydweithredol dan ambarel y Sefydliad Ffilm Prydeinig. Gellir gwylio ffilm Mr Roberts am Eisteddfod Genedlaethol 1952 ar safle ‘rhad ac am ddim’ y BFI. Mae golygfeydd diddorol ynddi o strydoedd y dre, o’r Prom yn orlawn, o dripiau cwch o Draeth y Gogledd, ac wrth reswm, llawer o luniau byw  o enwogion Cymreig y cyfnod ar Faes yr Eisteddfod.

Dilynwch y ddolen isod i weld y ffilm.

https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-eisteddfod-genedlaethol-frenhinol-cymru-aberystwyth-1952-1952-online