Coetir Anian yn cefnogi ieuenctid bregus

Prosiect diweddaraf elusen Coetir Anian sy’n cefnogi ieuenctid bregus yn ystod cyfnod COVID19

gan Nia Huw
Arts Drop Natur

Clarissa Richards a Nia Huw gyda’u ceir yn llawn bagiau i’w dosbarthu

Arts Drop Natur

Ychydig o’r miloedd o ddeunyddiau sy’n llenwi’r bagiau gweithgaredd

Yn ystod mis Tachwedd derbyniodd cannoedd o blant a phobl ifanc fregus yng Ngheredigion a Phowys becynnau gweithgaredd fel rhan o brosiect i gefnogi iechyd meddwl a lles tra dan gyfyngiadau Covid-19.

Mae Arts Drop Natur – y fenter gyntaf o’i math – yn dosbarthu bagiau o ddeunyddiau creadigol i helpu teuluoedd i fwynhau gweithgareddau hwyliog gartref.

Yn seiliedig ar y rhaglen Arts Drop wreiddiol a gefnogodd filoedd o deuluoedd yn Calderdale, Gorllewin Swydd Efrog yn ystod y cyfnod clo cyntaf, Arts Drop Natur yw’r cyntaf i gysylltu creadigrwydd â natur. Yn y pen draw, bydd y cynllun wedi trosglwyddo 600 o fagiau i weithwyr allweddol eu dosbarthu i blant a phobl ifanc sydd wedi eu hynysu ac sy’n cael eu heffeithio’n andwyol gan dlodi.

Dywedodd Clarissa Richards, Arbenigydd Addysg ar gyfer Coetir Anian, prosiect addysg ac adfer cynefinoedd: “Cefais fy nghyfareddu gan Arts Drop ac roeddem yn teimlo y gallai weithio’n dda iawn i gefnogi teuluoedd yn ein hardal ni. Ar y pryd roeddem yn teimlo’n rhwystredig na allem gwrdd a chefnogi’r plant a phobl ifanc trwy redeg ein rhaglenni addysg a lles ar ein tir ger Machynlleth. Felly, roedd gallu cynnig y gweithgareddau yma yn hynod bwysig i ni.” 

Mae’r bagiau, sydd wedi eu creu ar gyfer tri grŵp oedran – 0 i 5, 6 i 11 a 12 i 18, bellach wedi eu pacio gyda llond trol o ddeunyddiau fel llyfrau braslunio, paent, papur lliw, play-doh, glud, chwydd-wydr a siswrn. Ond efallai taw elfen bwysica’r bagiau yw’r set bwrpasol o gardiau post sy’n cyflwyno 20 her syml, hwyliog gan gynnwys gwneud draenog neu goron natur, gwehyddu neu fynd am daith droednoeth.  

Dyluniwyd y pecynnau a’r gweithgareddau o dan arweiniad Elaine Burke, ymgynghorydd celfyddydau ac iechyd sy’n arwain Arts Drop a hithau a sbardunodd y prosiect ar ôl llwyddiant y peilot yn Calderdale. 

Yn ôl Elaine: “Cawsom ymateb gwych i’r Arts Drop cyntaf yn Calderdale a phan glywsom fod gan Coetir Anian ddiddordeb yn y cynllun, achubom ar y cyfle i ychwanegu dimensiwn newydd sbon trwy greu Arts Drop Natur. 

“Mae yna gamdybiaeth bod bywydau pobl yn ddelfrydol oherwydd eu bod wedi’u hamgylchynu gan dirwedd hardd ond rydyn ni’n gwybod bod tlodi gwledig ar gynnydd a bod cymunedau gwledig yn profi pob math o anawsterau iechyd meddwl. 

“Rydyn ni hefyd yn gwybod bod manteision enfawr i fod y tu allan ym myd natur a phan fyddwch chi’n cyfuno natur a chreadigrwydd rydych chi’n rhoi hwb i effeithiau’r ddau. Mae cael plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn yn eu cysylltu â’u lle, yn eu harwain i’r awyr iach ac yn datblygu eu creadigrwydd.” 

Cefnogir Arts Drop Natur gan Gronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru, sy’n gweithredu o dan adain Sefydliad Cymunedol Cymru, a Chronfa Gymorth Covid-19 Moondance. Mae YPO Ltd, sefydliad o Wakefield sy’n cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau ledled y DU i gwsmeriaid gan gynnwys ysgolion a chartrefi gofal, wedi parhau â’i gefnogaeth i Dîm Arts Drop. Unwaith eto, rhoddodd Chris Mould, yr awdur a’r darlunydd o Halifax, ei wasanaeth yn rhad ac am ddim i ailddylunio logo arbennig Arts Drop Natur sy’n addurno’r bagiau gweithgaredd.

Eisoes dechreuodd Clarissa a’i chyd-weithiwr yng Nghoetir Anian, Nia Huw, ddosbarthu’r pecynnau i ysgolion, Barnardo’s Cymru, canolfan ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid o Syria a’r gwasanaethau cymdeithasol ac mae’r ymatebion cychwynnol wedi bod yn hynod bositif.

Meddai Clarissa, “Roedd paratoi’r bagiau yn dasg a hanner ond ein gobaith yw y byddant yn helpu i wella lles meddyliol plant a’u teuluoedd yn ystod y pandemig a thu hwnt, trwy eu cysylltu â natur.

“Yn aml, mae’n her dod o hyd i swyddi sy’n talu’n dda yn yr ardal. Mae lefelau tlodi yn uchel ac mae llawer o bobl sy’n gweithio yn gwneud gwaith shifft, sy’n anodd pan fydd gennych deulu. Yn aml, nid oes gan rieni amser i’w dreulio gyda’u plant yn yr awyr agored fel yr hoffent.

“Rhan o fwriad y pecynnau yw cynnig syniadau a hyder iddynt am sut i ddefnyddio deunyddiau naturiol a phethau y gallant eu gwneud gyda phlant yn yr awyr agored.  

Gyda’r bagiau anfonwn neges at blant bregus eu bod yn bwysig ac nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio.”

 

I ddarganfod mwy am Arts Drop ewch i https://artsdrop.co.uk/

I ddarganfod mwy am Goetir Anian ewch i https://www.coetiranian.org/ 

Cyllidwyd prosiect Coetir Anian drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae Coetir Anian yn gweithio mewn partneriath gyda Coed Cadw – Woodland Trust Cymru