Codi gwen ar Galan Gaeaf

Arddangosfa’r Hydref ym mhentref Llanddeiniol

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf trefnwyd Helfa Drysor ym mhentref Llanddeiniol fel bod gan y trigolion rhywbeth i wneud a’u diddanu ar eu wac dyddiol!
Pan ddaeth y newydd am gyfnod clo rhif 2, aed ati i drefnu Helfa Drysor y cyfnod clo Tec 2!! Y tywydd oedd y bwci mwyaf amser hyn o’r flwyddyn. Ond rhaid dweud buon ni’n lwcus iawn ac er gwaetha rhagolygon cafwyd digon o ysbeidiau sych dros y penwythnos.

Beth well i godi gwen hefyd na arddangosfa o bwmpenni wedi eu cerfio gan drigolion y pentref. Yn anffodus nos Wener oedd yr unig noson bu’n bosibl i ni eu cynnu nhw gan fod y gwynt wedi chwarae hafoc gyda’r matshys nos Sadwrn a nos Sul. Bu bron i Morus y gwynt striwo’r cyfan erbyn bore dydd Sadwrn ond achubwyd yr arddangosfa ac ychwanegwyd ato a braf oedd clywed yr adborth positif.

Mae pethau syml yn gwneud gwahaniaeth ac yn creu testun siarad. Gewch chi byth pawb i gyfrannu ond dim dyna’r pwynt bob amser. Gall gweithgareddau gwahanol apelio at bobl gwahanol ac mae amrywiaeth yn beth hynod bositif mewn unrhyw gymuned. Yn y gorffennol, yn dilyn cynnal gweithgaredd clywyd y sylw ’sdim pwynt i ni wneud hwnna eto’ a ‘ble oedd pawb?’ Ond ar ba sail dylid mesur llwyddiant gweithgareddau? Yn bendant nid y nifer sy’n mynychu neu gyfranogi yw’r llinyn mesur pwysicaf bob amser. Na ddylai’r wen sydd ar wyneb y rhai hynny sydd yn bresennol amlygu gwerth y digwyddiad?

Gwelwyd dro ar ôl tro yn ystod y misoedd diwethaf straeon am bobl yn dod i nabod eu cymdogion yn well. Gyda theuluoedd yn fwy fwy ar wasgar, gwell cymydog yn agos na theulu ymhell pan fo rhywun mewn angen cymorth ar frys. Gobeithio’n wir bydd yr elfen bositif yma ddaeth yn sgil cyfyngiadau COVID yn parhau gyda phobl yn gweld gwerth dod i nabod eu cymdogion a’r gymuned ehangach o’u cwmpas.

Mae Nadolig yn Llanddeiniol yn gyfnod cymdeithasol iawn fel arfer gyda nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu. Eleni bydd rhaid i ni wneud pethau ychydig yn wahanol felly mae’n bryd rhoi y ‘thinking cap‘ mlan fel bod ni’n gallu dathlu’r Ŵyl mewn steil er gwaetha’r cyfyngiadau.