Codi bwganod i godi arian!

Tybed sut aeth Cymdeithas Rhieni Athrawon Ysgol Gynradd Llangwyryfon ati i godi arian yn ddiogel yng nghanol cyfyngiadau Covid?

Enfys Medi
gan Enfys Medi

Mae’r cyfleon i godi arian i ysgolion ac elusennau wedi bod yn brin ers ddechrau Mawrth. Anodd iawn yw trefnu’r digwyddiadau arferol a chadw at ofynion rheoliadau COVID. Rhaid felly meddwl am syniadau newydd! Dyna wnaeth Pwyllgor Cymdeithas Rhieni Athrawon Ysgol Gynradd Gymunedol Llangwyryfon a mae hanes y digwyddiad wedi ei gofnodi yn y fideo byr yma.