Wrth i mi sgwennu’r darn yma, dwi yn gwylio cefn gwlad Sir Drefaldwyn, wedi’i ymdrochi yn haul y gwanwyn, yn pasio heibio wrth fynd nôl i’r Amwythig ar y trên. Yn croesi’r ffin i mewn i Loegr, dwi’n atgofio y ddwy wythnos diwethaf ges i nôl adref yn ardal Machynlleth a’r fro o gwmpas hi. Yn astudio yn yr Amwythig mae dod adre yn fraint wastad. Er nad yw’n bell mewn milltiroedd a dim ond dros y ffin ac yn arfer bod yn rhan o Gymru fel rhan o ardal Pengwern, mae’r Amwythig yn fyd i ffwrdd o gartref. Neis oedd cael mynychu gig miwsig Cymraeg y penwythnos diwethaf yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, mae ymgolli mewn diwylliant Cymraeg bob amser yn dda i’r enaid hiraethus. Nos Wener, 28ain o Chwefror, mi es i am ffrind i weld un o fandiau mwyaf hoffus Cymru – Cowbois Rhos Botwnnog. Mae rhywbeth clud am Cowbois, mae ei sŵn yn efelychu cwtsh cariadus Cymraeg o flaen tân ar noswaith dywyll.
Aberystwyth oedd un o’r lleoliadau ledled Cymru a oedd yn cael ei fynychu can Cowbois. Dinbych, Bala, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon ac Aberteifi oedd y chwe lle arall ar ei thaith i farcio deg mlynedd ers rhyddhau ei halbwm Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn. Perfformiwyd hen ganeuon a rhai newydd, mewn noson bersonol yn theatr prydferth hen-ffasiwn Amgueddfa Ceredigion.
Rhaid deud, man cyfarfod ardderchog i ddewis neud gig. Acwstics gwych, goleuadau atmosfferig, cynulleidfa fodlon ei byd wrth edrych o gwmpas y theatr, a chaneuon yn taro’r fan a’r lle. Rhai o fy ffefrynnau fel Celwydd Golau Ydi Cariad, Lle’r Awn i Godi Hiraeth ac wrth gwrs Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn. Mi roedd ’na rendition da byw o Ll’gada Gleision a cover aruthrol o wych o gân enwog Steve Eaves Ymlaen Mae Canaan. ‘Neth clywed hwnna neud i fy ffrind wenu o glust i glust, da ydi cael gweld cerddoriaeth yn codi ysbryd bobl.
Y band yn dangos emosiwn trwodd y holl set, ac Iwan yn arwain hefo hiwmor cyfeillgar rhwng caneuon, hyd yn oed yn deud jôcs. Rhai da hefyd. Yn edrych ar Iwan, mae fel edrych ar Bob Dylan ifanc yn perfformio, ac mae ei lais ddim rhy bell ohono chwaith. Gig ardderchog gan y band sydd wedi’i sefydlu ei hunan fel un o fandiau gorau Cymru. Diolch i Cowbois am gig werth ei weld a noson hyfryd allan yn Aberystwyth.