5 Clasico gorau De America a’r mwyaf yn y byd?

Dim arholiadau TGAU, felly cyfle i freuddwydo am wibdaith i Dde America!

Crys oddi cartref Boca Juniors

Cyflwynodd y llyfr “Golazo!” gan Andreas Campomar y byd lliwgar, cyffrous a gwallgof pêl-droed De America. Un o’r pethau sy’n diffinio’r gêm ar y cyfandir yw’r gemau darbi lleol (neu clasico). Maent yn cynnwys angerdd, sŵn byddarol, drama a llawer mwy. Y 5 gêm ganlynol yw’r clasicos gorau yn Ne America (yn fy marn i beth bynnag!). Does dim dadlau bod rhai gyda’r clasicos mwyaf yn y byd ond mae hanes eraill yn hynod ddiddorol.

  1. Derbi Campineiro – Ponte Preta vs Guarani

Mae’r Dérbi yma’n un o gemau mwyaf pwysig Brasil, heblaw dinasoedd mawr yr arfordir e.e. Rio de Janeiro, Porto Alegre a São Paulo. Ponte Preta yw’r tîm hynaf sydd dal i fodoli ym Mrasil (sefydlwyd yn 1900). Gellir dadlau ei fod yn un o dimau mwyaf dylanwadol y wlad gan roedd yn un o’r timau cyntaf ym Mrasil i adael chwaraewyr croenddu i chwarae iddynt.

Cafodd Guarani ei sefydlu yn 1911. Siŵr o fod taw dyma’r unig dîm pêl-droed sydd wedi’i enwi ar ôl opera! Daw’r enw Guarani o’r opera Il Guarany gan Antônio Carlos Gomes a anwyd yn Campinas ble lleolir y ddau elyn uchod.

Er bod y ddau dîm yn treulio llawer o’u hamser yn yr ail adran ym Mrasil, mae’r Dérbi yn dal i dynnu llawer o sylw. Mae’r ddau elyn yn agos at ei gilydd o ran perfformiad. Allan o 190 gêm rhwng y ddau, mae Guarani wedi ennill 67 tra bod Ponte Preta wedi ennill 62 gyda’r ddau’n rhannu pwyntiau ar 62 achlysur.

  1. Clasico Porteno – Santiago Wanderers vs Everton de Viña del Mar

Dwi’n siŵr na fydd y mwyafrif ohonoch wedi clywed am y clasico yma, ond yn eironig, dyma’r un mwyaf perthnasol i ni ym Mhrydain ac Iwerddon! Sefydlwyd Santiago Wanderers gan grŵp o ddynion a oedd yn cynnwys mewnfudwyr o Iwerddon tra sefydlwyd Everton gan fewnfudwyr o Loegr (hen elyniaeth arall!).

Mae’r ddau dîm wedi’u lleoli yn Valparaiso Fawr (Greater Valparaiso). Mae’r ardal yma o’r byd yn wefreiddiol gydag arfordir creigiog, trawiadol a bryniau a mynyddoedd serth. Mi fydd ymweld â stadiwm y ddau dîm yn eich atgoffa o brydferthwch naturiol Valparaiso. Mae stadiwm Wanderers (Estadio Elías Figueroa Brander) wedi’i leoli ar fryn ar benrhyn bychan sy’n ymestyn i Fôr yr Iwerydd. Ar y llaw arall, mae stadiwm Everton (Estadio Sausalito) ar lannau llyn Sausalito ac wedi’i amgylchynu gan goedwig.

Mae’r elyniaeth yn deillio, fel sawl clasico arall, o frwydr rhwng dosbarthiadau. Caiff Everton ei weld fel tîm y boneddigion tra bod Wanderers yn cael ei ystyried fel tîm dosbarth gweithiol.

  1. Clasico de Avellaneda – Racing Club vs Independiente

Dyma ail clasico mwyaf Buenos Aires ac mae’n cael ei chwarae yn y barrios (cymdogaeth neu fwrdeistref) diwydiannol Avellaneda. Dyma rhai o elynion agosaf y byd pêl-droed gan fod y ddwy stadiwm ond 550m ar wahân neu 7 munud o gerdded!

Mae’r cefnogwyr yn rhan hanfodol o’r clasico yma. Mi fydd y stadiwm wastad yn orlawn pan fydd y ddau yn chwarae ei gilydd ac mae lliwiau llachar y ddau dîm (coch i Independiente a glas golau i Racing) yn llifo trwy Avellaneda fel swnami ar ddiwrnod y clasico.

Mae’r ddau elyn yn hynod lwyddiannus hefyd. Mae Racing wedi ennill y gynghrair y mwyaf o weithiau gyda 18 teitl tra bod gan Independiente 16 teitl. Independiente yw’r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y Copa Libertadores wedi ennill y gystadleuaeth 7 o weithiau tra bod Racing wedi ennill y gystadleuaeth ar un achlysur.

  1. Clasico del Futbol Uruguayo – Peñarol vs Nacional

Dyma un o clasicos mwyaf hanesyddol y byd. Mae’r gêm fwyaf yng nghalendr pêl-droed Wrwgwai wedi cael ei chwarae 537 o weithiau. Daeth y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau ar y 15fed o Orffennaf 1900. I roi hyn mewn persbectif, mae’r Old Firm yng Nglasgow ond wedi cael ei chwarae 420 o weithiau!

Dyma’r ddau dîm mwyaf llwyddiannus o bell ffordd yn Wrwgwai gyda’r ddau wedi ennill 96 o’r 115 Primera Division sydd wedi’i chwarae! Ond nid yn unig cystadlu am dlysau sy’n gyrru’r elyniaeth. Yn hanesyddol, mae Nacional wedi bod yn dîm cenedlaetholgar iawn tra bod Peñarol wedi bod yn sefydliad i fewnfudwyr Montevideo. Sefydlwyd Nacional er mwyn rhoi cyfle i Wrwgwaiaid i chwarae pêl-droed. Wrwgwaiaid yn unig oedd yn cael ymuno â’r clwb yn y dyddiau cynnar. Mae lliwiau’r clwb (coch, gwyn a glas) yn cyfeirio at arwr cenedlaethol Wrwgwai (Jose Gervaiso Artigas). Ar y llaw arall, sefydlwyd Peñarol fel y CURCC (Central Uruguayan Railway Cricket Club). Sefydlwyd y clwb gan wyth dyn – pob un ohonynt yn dod o Brydain.

Mae’r clasico yma hefyd yn wledd i’r synhwyrai. Mae’r mwyafrif o’r gemau rhwng y ddau yn cael eu chwarae yn yr Estadio Centario ble gynhaliwyd rownd derfynol cyntaf Cwpan y Byd yn 1930. Mae’r stadiwm yn anferth ac mae’n cael ei lenwi i’r ymyl ar ddiwrnod y clasico. Mae’r cefnogwyr yn anhygoel gyda llawer o dân gwyllt, confetti ac ymbaréls yn cael eu troelli i greu tornado o liw.

  1. El Superclasico – Boca Juniors vs River Plate

Heb os nac oni bai, dyma’r clasico gorau yn Ne America, ac yn fy marn i, yn y byd.

Dyma’r ddau dîm mwyaf llwyddiannus o’r Ariannin ac mae tua 70% o boblogaeth y wlad yn eu cefnogi. Mae’r elyniaeth yn tarddu o’r 1900au cynnar pan oedd y ddau yn chwarae yn La Boca (ardal dosbarth gweithiol yn nociau Buenos Aires). Sefydlwyd y ddau dîm gan fewnfudwyr o’r Eidal gyda Boca Juniors yn enwedig yn falch iawn o’i gwreiddiau.

Yn y dyddiau cynnar, roedd yr elyniaeth yn ‘turf war’ yn La Boca. Er hyn, ni chyrhaeddodd yr elyniaeth ei uchafbwynt tan 1925 pan symudodd River Plate i faestref gwyrdd a chyfoethog Nuñez. O hyn ymlaen, River oedd tîm y boneddigion  tra Boca oedd y tîm dosbarth gweithiol a’r tîm i fewnfudwyr (mae Boca yn cael ei adnabod fel y Xeneizes – Genoese – hyd at heddiw oherwydd ei gwreiddiau Eidalaidd).

Erbyn heddiw, nid yw’r elyniaeth yn cael ei ddiffinio gan raniad rhwng dosbarthiadau, ond yn hytrach, cystadleuaeth am y gynghrair ac yn fwy diweddar byth, y Copa Libertadores. Bu’r cyfarfod yn rownd derfynol y copa yn un ffyrnig a gwyllt. Gohiriwyd y gêm gyntaf oherwydd di-liw Beiblaidd ac fe ganslwyd yr ail gêm ar ôl i gefnogwyr River Plate ymosod ar fws tîm Boca. Yn y diwedd, chwaraewyd yr ail gêm yn yr Estadio Bernabeu yn Sbaen, ble cyflwynwyd Ewrop i angerdd, lliw a sŵn y Superclasico. River ennillodd yn y diwedd yn amser ychwanegol (bu bron i mi grïo ar ôl hyn gan fy mod yn gefnogwr Boca!).

Er fy mod yn gallu ysgrifennu a disgrifio’r clasicos wrth hunan ynysu; y freuddwyd yw cael profi’r wefr go iawn a’u gwylio’n fyw. Gobeithio daw’r freuddwyd yn wir yn y dyfodol agos.

Y Llyfr: Golazo!: A History of Latin American Football gan Andreas Campoma a’r pris oddeutu £12.99(clawr meddal) .

Gruffudd Huw