Cica Corona: Ceredigion, Sir Benfro a Gwlad Thai

Cynllun Mentrau Iaith Ceredigion a Sir Benfro yn mynd yn rhyngwladol

Cofiwch hoffi tudalen @cicacorona ar Facebook am bob math o weithgareddau digidol

Yng nghanol holl boendod Corona mae cymuned ar-lein newydd “Cica Corona” wedi bod yn cynnig cysur i bobl ar ffurf amserlen fywiog o weithgareddau digidol i drigolion Ceredigion, Sir Benfro a thu hwnt.

Mae rhyw 1000 yn hoffi’r dudalen ar Facebook ac mae sawl un o’r gweithgareddau wedi eu rhannu yn feirol. O’r cwis wythnosol poblogaidd, Dywediad y Diwrnod, taflenni lliwio i blant, her “Limrig yr Wythnos” i’r cyfle i gymdeithasu gydag eraill pob dydd gyda “Dished am Ddou” mae llawer ar gael i’ch cadw yn fisi ac yn ddiddan.

Ar ddydd Llun Mai 4ydd mi fydd Cica Corona yn diweddaru ei amserlen ac yn lansio tri gweithgareddau newydd:

  • “Rhithmau Rhids” – Yn dilyn ei fideos poblogaidd “#rhidpiano” yn y grŵp “Côr-Ona” mi fydd Rhidian Evans, Aberteifi yn eich herio yn wythnosol i weithio mas beth yw enw’r gân Gymraeg mae’n chwarae ar y berdoneg – Pob dydd Llun am 2.30 y.p.
  • “Cerdyn Post” – Gyda Rhodri Francis, Aberystwyth wrthi’n ymweld â’r teulu yng Ngwlad Thai mi fydd yn postio cerdyn post fideo i ni bob wythnos yn ein cyflwyno i fywyd yn y trofannau ar hyn o bryd – Pob dydd Mercher am 10.30 y.b.
  • “Fy Hoff Lyfr” – A ydych chi wedi bod yn treulio tipyn o amser yn darllen dros yr wythnosau diwethaf? Mi fyddwn am i chi dynnu llun ohonoch yn darllen eich hoff lyfr Cymraeg, dweud pam ei fod mor dda ac yna enwebu rhywun arall i ymgymryd â’r her – #fyhofflyfr

Mae Cica Corona yn gynllun ar y cyd rhwng Menter Iaith Sir Benfro a Cered: Menter Iaith Ceredigion er mwyn hybu defnydd o’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau ar gyfer Cica Corona croeso i chi gysylltu gyda Cered ar cered@ceredigion.gov.uk.