Un o gerddi’r Eisteddfod Goll, rhaglen a ddarlledwyd ar S4C nos Sadwrn 8 Awst. Mae’r rhaglen yn ddathliad o ganeuon hen a newydd gan rai o’n perfformwyr gorau. Ces i’r fraint o sgwennu cyfres o gerddi i’w defnyddio fel dolenni rhwng pob set, i’w darllen gan Ffion Dafis.
Roedd yn brofiad rhyfedd iawn mynd i gaeau Llancaeach Fawr am ddeuddydd ddechrau’r mis, a gwylio’r cyfan yn cael ei ffilmio ar lwyfannau’r Eisteddfod, a neb yn y gynulleidfa ond dynion camera, criw cynhyrchu a drôn swnllyd! Eto i gyd, roedd yn hyfryd iawn bod yn rhan o raglen sy’n dathlu diwylliant Cymraeg er gwaethaf pob argyfwng.
Mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio ar lein ar Clic ac ar iPlayer tan ddechrau Medi, ac mae’r cerddi i gyd ar gael i’w darllen ar fy ngwefan i, eurig.cymru.