gan
Iestyn Hughes
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2020/12/coeden-garn-tocio-640x396.jpg?1j)
Ar ôl gweld llun o goeden Nadolig Bow Street ger Capel y Garn ar Twitter, ymatebodd y llenor Annes Glynn gyda cherdd hyfryd a ddenodd lawer o ymateb ar y wefan.
Taw sôn am ei chanslo
a’i lapio cyn pryd!
Cyfyngu ar lyshio a gwledda ynghyd.
Os fydd hi’n gaeedig,
saif seren a chrud
a gwyrth y Nadolig er gwendid y byd.
@Yr_Hen_Goes
Cyngor Cymuned Tirymynach, gyda diolch i’r Clerc, y Parchedig Richard Lewis, drefnodd gosod y goeden.