“What’s the point in studying Welsh? The language will just die anyway”
“You won’t get anywhere studying Welsh!”
“No one speaks the language”
“So you’re just going to stay in Wales for the rest of your life?”
Uchod gallwch weld enghreifftiau o’r fath o sylwadau sydd wedi cleisio fy nghof hyd heddiw. Sylwadau derbyniais ar ôl i mi ymgeisio i fynd i astudio gradd gyfun mewn Cymraeg ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Sylwadau a ddaeth o gegau fy nghyd-ddisgyblion ar y pryd. Hyd heddiw, dwi’n gweld hi’n anodd deall sut mae’n bosib portreadu iaith mor werthfawr mewn modd mor israddol, ac amharchus.
Fel myfyrwraig sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, dwi’n ddigon ffodus i allu cyflwyno fy ngwaith drwy’r Gymraeg. Er hyn, nid pawb sydd mor ffodus. Mae ‘na lawer o bobl, fel finnau wedi clywed yr iaith ers iddynt gael eu geni, ac wedi siarad yr iaith ers iddynt ddweud eu geiriau cyntaf. A rhai, heb ddechrau siarad Saesneg am flynyddoedd wedi dechrau ffurfio brawddegau Cymraeg. Golyga hyn fod yna gyfanswm sylweddol o’r Cymry yn ymarfer ac yn defnyddio’r Gymraeg lawer amlach na’r Saesneg. Ond, yn sydyn, pan ddaw i astudio cyrsiau cyfrwng Saesneg yn y Brifysgol, mae disgwyl iddynt ysgrifennu mewn modd academaidd drwy eu hail iaith yn syth, heb arweiniad. Yn amlwg, nid oes gennyf brofiad o’r sefyllfa hon, ond dwi wedi trafod y peth gyda sawl ffrind agos i mi a oedd yn teimlo’n gryf iawn am y sefyllfa.
‘Ti ‘di trafod hwn ‘da tiwtor Personol ti?’ Holais un fy ffrindiau
‘Ydw, a galli di feddwl bo fi’n sôn am iaith sy’ ddim yn bodoli. Wedd hi ddim Yn becso o gwbwl.’ Oedd eu hateb hi.
Gofynnwch chi i fyfyriwr o dramor, dwi’n siŵr fyddan nhw’n canu clodydd Prifysgolion y Deyrnas Unedig am eu cyngor i fyfyrwyr ail iaith. Ond eto, pan ofynnwch chi i’r Cymry, fe gewch chi stori dipyn yn wahanol wrth y mwyafrif. Pam ar y ddaear nad ydynt yn ystyried y myfyrwyr a ddysgodd yr iaith Gymraeg flynyddoedd cyn y Saesneg? Cwestiwn sydd allan o’n neall i! Heb os nac oni bai, dylai’r myfyrwyr a dderbyniodd eu haddysg gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, yn yr ysgol Gynradd ac Uwchradd, gael ei ystyried fel myfyrwyr ail iaith. Sut gallwch chi ddisgwyl i fyfyriwr deunaw a dderbyniodd addysg mewn Ysgol Gymraeg ysgrifennu traethawd Saesneg o’r un safon a myfyriwr a derbyniodd addysg Saesneg yn unig? Sut allwch chi ddisgwyl iddynt gael y radd maent yn haeddu heb ystyried eu sefyllfa ieithyddol? Gallwch chi ddim! Mae’r Sefyllfa’n un annheg!
Efallai ei bod hi’n iaith leiafrifol, ond mae gan BOB iaith yr hawl i fodoli ac yn bwysicach oll, i OROESI! Felly, mae’n gyfrifoldeb arnom ni, fel Cenedl i siarad, ac i roi Cyhoeddusrwydd i’r iaith. Wedi’r cwbl ‘Cenedl heb iaith, Cenedl heb galon!’ Er hyn, cyn adeiladu ar gyhoeddusrwydd yr iaith, mae’n hanfodol i ni fel Cymry waredu’r stigma negyddol yma sy’n amharu ar ddatblygiad ein hiaith.
Heb amheuaeth, mae’r iaith Gymraeg yn ddigon i ddiffinio person, yn rhan o hunaniaeth lawer iawn o bobl. Ond nid pawb oedd â gwedd gadarnhaol am y diffiniad hynny. Pan oeddwn i yn yr ysgol, fy nghylch ffrindiau i oedd yr unig gylch a oedd yn cymdeithasu drwy’r iaith ac o ganlyniad i hyn roedd gweddill y disgyblion yn ddigon parod i enwi ni. ‘The Welshies.’ Erbyn heddiw dwi lawn balchder am y peth, ond fel disgybl, a oedd yn fwy agored i niwed, roedd yr enw hwnnw yn ffordd o’n hynysu ni fel ffrindiau, ffordd i’n gwneud ni deimlo’n wahanol. Cenfigen oedd y broblem dwi’n siŵr, ond dwi ddim yn cofio galw gweddill fy mlwyddyn yn ‘Saeson’ am eu bod nhw’n siarad Saesneg.
Mae’n bosib fod diffyg addysg am wreiddiau’r iaith yn broblem, neu efallai diffyg diwylliant yw’r broblem? Neu a ydy pobl wedi mynd yn ddiog, rhy ddiog i ddefnyddio’r iaith? Dwi ddim yn siŵr beth yw gwraidd y stigma yma, ond i’r iaith ddatblygu, mae’n rhaid i ni ei waredu!
Mae sylwadau amhroffesiynol Carrie Gracie yn enghraifft berffaith o’r stigma annioddefol yma! Trueni nad oes modd i Brif Weinidog Cymru ddatgan yn y Gymraeg yn unig, i orfodi pobl i ddysgu’r iaith!
I gloi, ymbiliaf arnoch chi, ddarllenwyr i sefyll yn gadarn dros yr iaith, ym mhob sefyllfa! Peidiwch ofni rhoi rhywun yn ei le am ddweud sylwadau annymunol am yr iaith! Byddai’n braf i weld yr iaith yn cael ei dderbyn gan bawb, ac yn y pendraw, yn ffynnu. Cyn inni ennill chware teg i’n holl fyfyrwyr ail iaith Saesneg, mae’n rhaid i bawb hyrwyddo’r ffaith fod yna swm mawr o deuluoedd yn dal i gyfathrebu trwy’r iaith, yn ogystal â llawer iawn o ddisgyblion yn derbyn addysg drwy’r Gymraeg! Fel dywed y Cymro ‘Egni a lwydd’ felly brwydrwch yn llawn brwdfrydedd!
Diolch am ddarllen!