Cariad Dan Glo

Drama newydd yn ystod y cyfnod clo

glain
gan glain

Helô! Fy enw i yw Glain Llwyd. Dwi’n 16 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig. Dros y cyfnod clo dwi wedi bod yn rhan o gynhyrchiad cwmni theatr Arad Goch, Cariad Dan Glo.

Sioe sy’n dilyn hanes criw o ffrindiau yn ystod y cyfnod clo yw hon. Cawn weld eu storïau’n blaguro trwy’r perfformiad. Mae wyth cymeriad lliwgar yn y ddrama, pob un yn wahanol i’w gilydd. Dwi’n chwarae rhan Pam. 

Mae’r ddrama’n cael ei pherfformio gan griw o bobl ifanc a wnaeth astudio TGAU drama y llynedd efo Arad Goch ac yn ddisgyblion yn Ysgol Penweddig. Cafodd ei ffilmio dros Zoom (oedd yn broses ddigon heriol efo wi-fi dodji cefn gwlad Ceredigion!). 

Y ffordd orau o ddisgrifio’r ddrama yw ‘feel good’, doniol a hwyl. Mae’n delio efo amryw o themâu, ac mae llwythi o ddarnau ‘quirky’ ynddi! (Be sydd ddim i’w hoffi?)

Mae modd i chi wylio’r ddrama ar https://www.amam.cymru/aradgoch nawr. Go for it, newch chi fwynhau mas draw! (: