Capeli Gofalaeth y Garn yn cefnogi Beiciau Gwaed Cymru

Rhodd hael i Feiciau Gwaed Cymru, Aberystwyth

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Bore Sul, 26 Ionawr 2020, daeth rhai o grŵp Aberystwyth o’r elusen Beiciau Gwaed Cymru i Gapel y Garn i dderbyn rhodd gan gapeli’r ofalaeth. Cyflwynodd Delyth Davies, cadeirydd yr ofalaeth, siec am £680 i Mathew Leeman, o’r elusen.

Wrth ddiolch am y rhodd esboniodd Mathew waith yr elusen sy’n cynnwys cludo samplau gwaed, llaeth babi, meddyginiaethau neu ddogfennau hanfodol rhwng gwahanol ysbytai. Efallai nad ydyn ni’n gweld y beiciau’n aml ar y ffordd gan mai yn ystod y nos ac ar y penwythnos y byddan nhw’n gweithio fel arfer, gan arbed arian sylweddol i’r Gwasanaeth Iechyd.

Rhoddodd fraslun byr o waith y gwirfoddolwyr, sy’n cynnwys sawl rôl wahanol – trefnu rota’r beicwyr, codi arian a chyhoeddusrwydd, yn ogystal â reidio’r beiciau hollbwysig. Os hoffech chi eu cefnogi, ewch i’w gwefan: www.bloodbikes.wales neu ymunwch â’u grŵp Facebook: Blood Bikes Wales, Aberystwyth.