Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr yn dathlu 20!

Ar Fawrth y 1af, bydd 20 mlynedd ers agor Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr yn Aberystwyth.

gan merchedywawr

Canolfan Merched y Wawr

Ar Fawrth y 1af 2020, bydd Canolfan Genedlaethol Merched y Wawr yn dathlu 20 mlynedd ers agor yn y flwyddyn 2000. Cyn prynwyd yr adeilad, roedd yn gweithredu fel Ganolfan Urdd Sant Ioan a’r Groes Goch, a chyn hynny, bu’n gapel o dan ofal y Parch Aseriah Shadrach.

Agorwyd y Ganolfan ar Fawrth y 1af 2000 gan Lywydd Anrhydeddus y Mudiad, Marged Jones, yng nghwmni Sylwen Lloyd Davies, y Llywydd presennol. Cafwyd cyngerdd agoriadol y noson honno, i gynrychiolwyr o’r mudiad a’i gwesteion.

Erbyn hyn, mae’r Ganolfan yn adnodd cymunedol ac yn adeilad sy’n cael ei ddefnyddio yn rheolaidd. Mae’r  sefydliadau a mudiadau yn cynnwys St John’s, Cymdeithas yr Iaith, Mentrau Iaith, Brethren, Spiritualists, Shelter Cymru a nifer o rai eraill.

Mae modd llogi’r ystafell Gynhadledd ac Ystafell Weithgareddau gyda lolfa a chegin bwrpasol. Mae lluniaeth lleol ar gael am bris rhesymol. Mae mynediad i’r anabl a lifft i fyny i’r llawr cyntaf.

Cysylltwch â’r swyddfa os oes diddordeb llogi ystafell ar 01970 611 661.

Adref