Canolfan y Celfyddydau yn agor ceisiadau am Wobr Ian McKellen 2020

Gwobr i berson ifanc rhwng 16-25 oed sydd am barhau ei hyfforddiant gyrfäol yn y celfyddydau creadigol.

gan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n agored i berson ifanc rhwng 16 – 25 oed sydd am barhau ei hyfforddiant gyrfäol yn y celfyddydau creadigol.

Pan ddaeth Syr Ian McKellen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau ym mis Chwefror 2019, rhoddwyd yr holl arian a godwyd wrth werthu tocynnau, a’r cyfraniadau a dderbyniwyd yn ystod ei ymweliad, i un ochr, i’w defnyddio i gefnogi gwaith y Ganolfan gyda phobl ifanc.

Er anrhydedd i ddyn mor ysbrydoledig sefydlwyd Gwobr Ian McKellen Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae’r wobr arbennig hon yn agored i berson ifanc rhwng 16 – 25 oed sydd am barhau ei hyfforddiant gyrfäol yn y celfyddydau creadigol – yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, theatr, dawns a’r celfyddydau gweledol.

Rhoddir un wobr o £500 bob blwyddyn i unigolyn sy’n dangos addewid artistig ac angerdd tuag at ei ffurf gelf, ac sydd â lle i astudio yn ystod y flwyddyn academaidd ganlynol.

Roedd ansawdd ymgeiswyr llynedd mor uchel fe rannwyd y wobr rhwng dau berson ifanc – Owain Gruffydd, sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Northampton ar gwrs baglor actio, a Laura Baker, sy’n astudio am radd mewn Addysg Bale yn y Royal Academy of Dance.

Dywedodd Owain am ei brofiad, “Roedd cael cyfarfod â Syr Ian McKellen pan ddaeth i Aberystwyth yn fythgofiadwy, ac yn ysbrydoliaeth i mi fel actor ifanc, ar ôl yr holl brofiadau gwych eraill a gefais gyda’r Theatr Ieuenctid a Chanolfan y Celfyddydau dros y blynyddoedd. Roedd ennill Gwobr Ian McKellen llynedd yn fraint aruthrol, ac rwy’n ddiolchgar iawn am bob cyfle a gefais gan y Ganolfan. Rwy’n mwynhau fy nghwrs actio ym Mhrifysgol Northampton, ac yn edrych ymlaen at gael ailgydio yn y gwaith fis Medi. Rwy’n annog pob actor ifanc i fynd amdani!”

Dywedodd Laura, “Roeddwn i mor ddiolchgar i dderbyn y wobr gan y helpodd cyfrannu at fy astudiaethau bale, llyfrau ac adnoddau. Wnaeth y wobr hefyd fy ngalluogi i i gael profiad ymarferol wrth ochr f’astudiaethau, drwy gymryd rhan mewn gweithdai bale ychwanegol a chyfleoedd ymarfer yn Llundain. Mae’r Wobr Ian McKellen yn gyfle gwych gan ei fod yn helpu pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau maent yn angerddol amdanynt.”

I wneud cais, gofynnir i chwi lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth erbyn 7fed Awst 2020. Disgwylir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad byr i drafod eu cais yn ystod mis Awst 2020. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth https://www.aberystwythartscentre.co.uk/gwobr-ian-mckellen-award neu e-bostiwch artsadmin@aber.ac.uk.