gan
Catryn Lawrence
Diolch am y syniad gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, eleni rydym yn gwerthu Calendr 2021 yn arddangos gwaith celf disgyblion Ysgol Penrhyn-coch. Mae pob un o’r 95 disgybl yn yr ysgol wedi cael cyfle i greu gwaith celf ar gyfer y calendr, ac mae aelodau’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi mynd ati i’w osod mewn modd celfydd a deniadol a fyddai’n dod a chwistrelliad o liw i wal unrhyw swyddfa neu gartref. Anrheg perffaith ar gyfer y Nadolig. Diolch i gwmni’r Lolfa am argraffu. Ar gael am gost o £6 o’r Ysgol neu siop Nisa garej Tŷ Mawr, Penrhyn-coch.