Bwca yn rhyddhau Elvis Rock

Sengl a fideo wedi ei animeiddio newydd gan Bwca

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)

Does dim taw ar Bwca achos ar ddydd Gwener Gorffennaf 17eg fe ryddhawyd eu trydedd sengl eleni sef ‘Elvis Rock’ a bellach mae yna fideo hwyliog yn cyd-fynd â’r gân. 

 

Dyma ddolen i’r trac ar Spotify fan hyn:

https://open.spotify.com/track/1fin3uE6m2wQxBCzoltOT7?si=hD8Loq66QSinX21ihCPEaA

Bydd brodorion BroAber360 yn gyfarwydd iawn gydag ysbrydoliaeth y gân hon oherwydd Elvis Rock sydd wrth gwrs yn nodi’r ffin rhwng Bro Aber a Maldwyn ar ffordd yr A44 yn Eisteddfa Gurig. Er ei bod hi mor gyfarwydd i ni efallai fod ei hanes hi ychydig yn llai cyfarwydd.

Is-etholiad Maldwyn 1962

Yn ôl pob sôn fe beintiwyd y graig hon yn wreiddiol gyda’r gair “Elis” gan John Hefin o’r Borth a’i gyfaill David Meredith o Lanuwchllyn yn 1962 er mwyn hyrwyddo ymgyrch Islwyn Ffowc Elis fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Is-etholiad Maldwyn y flwyddyn honno yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Clement Davies.

Er mai dyma oedd y tro cyntaf i Blaid Cymru sefyll yn yr etholaeth hon Emlyn Hooson o’r blaid Ryddfrydol oedd yn fuddugol gydag 11,587 pleidlais yn fwy nag awdur clasuron megis Cysgod y Cryman ac Wythnos yng Nghymru Fydd.

Gan wisgo balaclafas fe beintiodd Hefin a Meredith y graig yn goch a gwyrdd sef lliwiau Plaid Cymru a Chymru ond ymhen rhai diwrnodau fe newidiwyd “Elis” i “Elvis”.

Tirnod symbolaidd i lawer

Tra fod hynt a helynt wal Cofiwch Dryweryn wedi bod yn y newyddion yn rheolaidd dros y blynyddoedd nid dyma’r unig wal sydd wedi cael ei “haddasu” i gyfleu negeseuon eraill.

Er enghraifft, yn 1992 mae’n debyg fod yr “Elvis” wedi ei newid ddwywaith, y tro cyntaf i “LUFC” er mwyn dathlu CPD Leeds United yn cipio’r hen Adran Gyntaf ac ar yr ail dro i nodi enw Benny Hill yn dilyn marwolaeth y diddanwr y flwyddyn honno.

Mae Elvis Rock hefyd yn garreg filltir i nifer sydd yn teithio i Aberystwyth gan ei fod yn dweud fod diwedd y daith i’r dref anghysbell hon bron ar ben a dyma yn y bôn yw neges sengl ddiweddaraf Bwca.

Bwca fflat i’r mat yn y Cyfnod Clo

Er fod cwrdd i ymarfer a gigio gyda gweddill y band wedi bod yn bosib ers Chwefror mae Steff Rees, ffryntman Bwca wedi bod yn gweithio’n ddi-flino yn ystod y Cyfnod Clo yn rhyddhau caneuon newydd sbon.

Wrth i Covid-19 roi taw ar gynlluniau llawer o fandiau mae Steff wedi gwneud y gwrthwyneb gan benderfynu rhyddhau traciau o’r casgliad o ganeuon Bwca a recordiwyd yn Stiwdio Sain gyda chwmni Drwm fel senglau. Hyd yn hyn mae Bwca wedi cyflwyno i ni ‘Tregaron’ a ‘Hiraeth Fydd (701)’ o’r casgliad yma ac Elvis Rock yw’r drydedd.

Yn gerddorol, mae’r gân hon yn un roc a rôl go iawn sydd yn adlewyrchu’r hyn sydd yn aml ar stereo car Steff. Yn ymuno â Steff (llais a gitâr) ar y trac mae Rhydian Meilir Pughe ar y drymiau, Kristian Jones ac Ifan Jones ar y gitâr, Nick Davalan ar y gitâr fas ac Iwan Hughes gyda’r llais cefndir.

Y fideo, y clawr a sut i ddarganfod mwy

Mae fideo wedi ei greu er mwyn hyrwyddo’r sengl yma ac fe gafwyd ei chwarae am y tro cyntaf ar Heno ar nos Lun Gorffennaf 27ain. Fideo animeiddio ydyw sydd yn sicr o ddod a gwên fach i’ch wyneb.

Yn gyfrifol am glawr y sengl mae’r ddarlunwraig Lois Ilar o Gaerfyrddin sydd fel mae’r enw yn awgrymu gyda chysylltiadau teuluol gyda Bro Aber. Gallwch ddarganfod ei gwaith ar ei gwefan (www.loisilar.com).

Mae’r trac wedi ei ryddhau ar label Recordiau Hambon sydd yn label prysur iawn wedi ei reoli gan y Welsh Whisperer ac yn gartref i Bwca, Crawia, HyWelsh a’r bòs ei hun.

I ddarganfod mwy am Bwca ewch i’w dilyn ar Spotify, Facebook, Instagram a Twitter.