Bwca: Am flwyddyn!

Steff Rees yn cnoi cul ar 2020 go brysur i Bwca serch holl heriau’r Corona 

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)
Bwca ar set Lŵp, Tachwedd 2020

Mae 2020 wedi bod yn hen flwyddyn rhyfedd iawn ac i lawer yn y byd creadigol mae wedi bod yn un uffernol o anodd. Er hyn, mae Bwca wedi llwyddo i nofio yn erbyn y cerrynt cryf a chael blwyddyn digon llwyddiannus.

Dangos symptomau

Dechreuodd y flwyddyn gyda gig Cicio’r Bar yng Nghanolfan y Celfyddydau a chwpl o deithiau lan i Stiwdios Sain er mwyn cau pen y mwdwl ar recordio albwm cyntaf Bwca. Roedd dechrau’r flwyddyn yn stormus dros ben ac fe ganslwyd sawl sesiwn recordio ond diolch i’r drefn fe lwyddodd y Bwcabus i gyrraedd Llandwrog ar Chwefror 22ain am un sesiwn olaf.

Wrth i Ifan Candelas y cynhyrchydd gwblhau cymysgu a mastro’r albwm fe ymddangosodd Bwca ar S4C am y tro cyntaf ym mis Mawrth a hynny ar Noson Lawen i berfformio “Tregaron” sef un o’r caneuon oddi ar yr albwm. Wrth i’r Eisteddfod ddod i’n stepen drws a’r gân deyrnged hon yn y repertoire roedd 2020 yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous iawn gyda phump gig o gwmpas y Maes eisoes yn y llyfr. Doedd dim byd am ein stopio ni…

Cael fy mhrofi i’r eithaf

Yn dilyn y perfformiad ar Noson Lawen trefnwyd i ryddhau Tregaron fel sengl ar Ebrill 3ydd. Er hyn, pedwar diwrnod yn unig cyn y diwrnod lansio, daeth y newyddion fod yr Eisteddfod yn cael ei gohirio am flwyddyn. Beth oedd dyn am wneud â’r sengl? Beth am y datganiadau i’r wasg oedd yn gwerthu’r gân fel anthem ar gyfer haf 2020 ayyb?

Digon rhwydd fyddai canslo popeth, conan, cael seibiant ac aros yn amyneddgar am 2021 ond meddyliais am y gwpled honno yng Nghân y Trefnwyr am ysbrydoliaeth:

“Positifrwydd – so fe’n rhwydd
Ond creadigrwydd – na beth a lwydd” 

Y noson honno felly es ati i baratoi datganiad newydd i’r wasg a gwerthu’r gân fel un fyddai’n cynnal y fflam ym moliau’r genedl am daith i Dregaron ar gyfer yr Eisteddfod pryd bynnag fydd hynny’n bosib boed hynny’n 2021 neu 2022! Pleser yw gweld taw Tregaron bellach yw hoff gân Bwca gan ddefnyddwyr Spotify.

Ynysu sy’n rhaid

Er fod pawb wedi bod yn styc yn eu cartrefi trwy’r Gwanwyn daeth nifer o gyfleoedd i berfformio gigiau rhithiol ar Facebook Live. Y cyntaf o’r rhain oedd Gŵyl Ynysu â drefnwyd gan Y Selar. Ar ôl bod wrthi ers Hydref 2018 yn trio sefydlu band byw ar gyfer Bwca, digon rhyfedd oedd addasu’r caneuon ar gyfer eu perfformio nhw ar ben fy hun unwaith eto.

Heb haenau’r offerynnau amrywiol a heb y system sain broffesiynol roedd y gigiau yma o’n soffa fel gigs rhithiol artistiaid eraill y wlad yn ddigon amrwd ond er hyn, buont yn brofiadau gwerthfawr iawn i artistiaid yn enwedig ar ddechrau’r Cyfnod Clo.

Roedd cael perfformio’n rhithiol hefyd yn brofiad digon pleserus. Erbyn diwedd yr haf wnes i lwyddo i chwarae pump gig rhithiol a rheiny yn llawn sgwrsio a thynnu coes selogion Bwca a chefnogwyr newydd.

Gwella a chael mynd mas eto

Wrth i’r cyfyngiadau lacio tipyn erbyn mis Awst cafodd Bwca gyfle arbennig diolch i Gyngor Sir Ceredigion a Haka Entertainment i wneud taith o gigiau go iawn yn nhrefi de Ceredigion. Er nad oedd modd cael pawb at ei gilydd i’r daith fach hon oherwydd maint y llwyfan ac ati roedd hi’n grêt cael cwmni Iwan ar y cajon a’r llais cefndir wrth ddiddanu’r ymwelwyr yn Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi. Cafwyd cyfle hefyd i deithio i Gaernarfon i ffilmio ar gyfer rhaglenni Noson Lawen a Lŵp. Y gig hynny gyda Lŵp oedd y tro cyntaf i ni chwarae fel band trydanol ers Hydref 2019! Dyma linc i’n perfformiad i chi wylio:

https://www.youtube.com/watch?v=zguBKaiAy1s

Yn fwyaf diweddar, dwi wedi bod yn canolbwyntio ar gael yr albwm yn barod er mwyn ei ryddhau ar CD erbyn y Nadolig. Wedi sawl blwyddyn o baratoi mae’n wych gallu gweld yr albwm ar silffoedd holl siopau Cymraeg Cymru, er gwell byth yw clywed faint mor dda maen nhw’n gwerthu!

Os nad ydych chi wedi cael eich copi chi eto cysylltwch gyda Bwca ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ebostio bwcacymru@outlook.com ac fe wnai ddelifro un ar gefn beic i chi – mae hawl gwneud hynny dwi’n meddwl!

I gloi…

Bydd rhai yn gweld y flwyddyn hon fel blwyddyn o roi popeth ar stop a blwyddyn wedi ei cholli ond dydw i ddim o’r un farn. Er fod y flwyddyn hon yn wahanol iawn i’r un roeddwn i’n ysu amdani ym mis Ionawr mae Bwca wedi llwyddo eleni i gadw’n brysurach na llawer iawn o fandiau ac artistiaid Cymraeg eraill.

O ystyried fod tipyn o fynd a dod wedi bod gydag aelodaeth Bwca mae’n bosib y byddai wedi profi’n flwyddyn digon heriol o ran dod ynghyd i ymarfer ac ati. Yn hynny o beth mae 2020 wedi bod yn weddol amserol. O gynnal perfformiadau yn unigol, fel deuawd, triawd, pedwarawd neu fand llawn licen i feddwl fod 2020 wedi datblygu Bwca i fod yn brosiect cerddorol tipyn fwy gwydn a hyblyg wrth edrych tuag at y dyfodol. 

Bydd fwy ar y ffordd gan Bwca yn 2021 yn sicr felly cadwch yn saff, mwynhewch Nadolig bach syml a gobeithio cewch chi Flwyddyn Newydd ychydig yn llai anarferol.

 

Steff