Buddugoliaeth Gyntaf Aber

Aberystwyth 3 – 1 Y Fflint (18/09/2020)

gan Gruffudd Huw
Aber-Fflint

Bu’n rhaid i dîm ifanc Aberystwyth frwydro’n galed i ennill tri phwynt pwysig o dan lifoleuadau Coedlan y Parc yn erbyn y newydd-ddyfodiaid Fflint. Er mai’r Fflint sgoriodd gyntaf, dangosodd tîm ifanc Aber dipyn o wytnwch, a daethant yn ôl i ennill eu gêm gyntaf yn nhymor newydd Cynghrair Cymru Premier JD -gêm, dwi’n siŵr, fydd wedi codi hyder y tîm cymharol ddibrofiad yma.

Ar ddechrau’r gêm roedd Aber yn edrych yn siarp gyda Jamie Veale yn hawlio’i fod wedi’i dynnu i lawr yn y cwrt cosbi. Er hyn, dechreuodd y Fflint frwydro’n ôl ac yn fuan roeddent yn rheoli’r gêm. Roedd y gogleddwyr yn rhoi tipyn o bwysau ar y tîm cartref gan eu corlannu yn hanner Aber.

Yn erbyn rhediad y chwarae, plannodd Matthew Jones y bêl yn y rhywd gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi. Hedfanodd y bêl heibio golwr profiadol y Fflint, John Danby. Ond, eiliadau ar ôl i’r bêl daro’r rhwyd, cododd y llumanwr ei faner felen i arwyddo fod yna gamsefyll. Gydag Aber yn cwestiynu’r dyfarniad, brasgamodd y Fflint i fyny’r cae. Heb roi amser i Aber i ailosod eu hamddiffyn yn iawn, trawyd pêl uchel yn syth i lawr y cae i’r ymosodwr Connor Harwood. Bownsiodd y bêl dros y cefnwr chwith ifanc, Harri Rowe, ac fe basiodd Harwood y bêl i mewn i’r rhwyd ar ôl mynd heibio golwr Aber, Connor Roberts.

Nid oedd pethau’n edrych yn addawol i Aber. Roedd angen rhywbeth i gynnau tân ym moliau’r chwaraewyr. Dyna’n union beth wnaeth Jonathan Evans gyda’i ail gôl mewn tair gêm. Croesodd Matthew Jones y bêl ar draws y cae i Evans. Torrodd Evans i mewn o’r asgell dde gan sgipio heibio un o amddiffynwyr Fflint. Crymanodd y bêl i gornel bella’r rhwyd i unioni’r sgôr.

Parhaodd y tân ym moliau Aber ar ddechrau’r ail hanner. Yn syth o’r gic gyntaf, roeddent yn cau chwaraewyr y Fflint i lawr, yn ennill y bêl yn ôl yn syth ac yn pasio’u ffordd lan y cae. Roedd y tîm yn chwarae’n feistrolgar, gyda phasio manwl, cywir a hyderus. Doedd hi ddim yn syndod felly i weld y tîm mewn gwyrdd a du yn dathlu gôl unwaith eto. Lloriwyd Davies yn y cwrt gan dacl wael ac enillodd gic o’r smotyn. Yn llawn hyder, gosododd Mathew Jones y bêl yn y rhwyd gan hela Danby’r ffordd anghywir. Roedd Aber ar y blaen 2-1, er mawr lawenydd i’r cefnogwyr ar y bws a’r rhai ar ben ysgolion tu allan i’r cae!

Parhau wnaeth y cyfnod euraidd i Aber. Ar ôl 68 munud, tarodd Matthew Jones ei gic rydd yn erbyn wal y Fflint. Rhedodd ar ôl y bêl rydd a’i chicio’n uchel dros ei ysgwydd tua’r cwrt. Anwybyddodd amddiffyn y Fflint Lee Jenkins wrth redeg allan gan geisio dal Louis Bradford yn camsefyll. Sleifiodd Jenkins y tu ôl i’r amddiffyn ar ochr chwith y cwrt ac fe darodd y bêl ar foli. Rholiodd y bêl heibio Danby ac i mewn i’r gornel waelod bellaf. 3:1 i Aber.

Gydag 20 munud yn weddill, dechreuodd yr ymwelwyr bwyso unwaith eto. Cafodd y Fflint ddau gyfle yn sydyn ar ôl ei gilydd. Er hyn, roedd y bartneriaeth ifanc o Lee Jenkins a Louis Bradford yng nghanol yr amddiffyn wedi aros yn gryf. Trwy gydol y gêm, profodd Bradford ei fod yn arweinydd naturiol gan gyfarth cyfarwyddiadau.

Er gwaetha diffyg profiad Aber ar y cae, cafwyd perfformiad aeddfed gan y tîm a dangoswyd cryn frwdfrydedd i ddod o 1-0 i lawr i ennill y gêm. Mae’n rhaid dweud fod gan Gavin Allen, y rheolwr, sawl talent ifanc o safon yn y tîm. Gobeithio y gall Aber wireddu gobeithion Gavin Allen i orffen yn y chwech uchaf y tymor yma!

Mae dwy gêm anodd yn wynebu Aberystwyth dros y pythefnos nesaf, oddi cartref yn erbyn Drenewydd ac yna oddi cartref yn erbyn enillwyr y Gynghrair y llynedd, Cei Connah.

Nodyn bach pwysig i orffen. Mae’n rhaid canmol a diolch am waith y gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gemau yma’n bosib.

Mae goliau Jonathan Evans a Lee Jenkins i’w gweld ar gyfrif Trydar Sgorio:

https://twitter.com/AberystwythTown/status/1307045226951909378?s=20

https://twitter.com/AberystwythTown/status/1307054144226820096?s=20

 

2 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.