Wedi byw yn Aberystwyth ers bron i ddeugain mlynedd, ro’n i’n meddwl mod i’n nabod y dre – ond fe ges i weld sawl agwedd wahanol arni yn ystod fy mlwyddyn yn Faer y dre. Gyda chefnogaeth ddiamheuol cyd-gynghorwyr, croeso twymgalon gan drigolion y dre a chyfle i gwrdd â nifer o grwpiau gweithgar sy’n cynnal cymuned Aberystwyth, roedd hi’n flwyddyn hynod amrywiol.
Bu’n flwyddyn gythryblus: collodd y dref nifer o garedigion yr iaith – pobl weithgar a thalentog – ac mae ein cymuned yn dlotach o lawer o’u colli.
Profwyd bygythiad cenedlaethol i’n democratiaeth; gwawriodd diwrnod torcalonnus gadael Ewrop; a mynegodd pobl gydwybodol Gwrthryfel Difodiant eu pryder gwirioneddol am ddyfodol ein planed. Ac fel sy’n arferol yn Aber – nodwyd yr holl bethau hyn yn yr awyr agored – ar y prom, ar y stryd neu ger swyddfeydd y cyngor sir. Hir y parhaed ein harfer o fynegi ein teimladau a’n barn yn groyw.
Rwy’n falch i’r Cyngor ddatgan ei wrthwynebiad llwyr i unrhyw ymddygiad hiliol, gan gyhoeddi hefyd mai tref ddi-gasineb yw Aberystwyth. Yn ogystal, wedi trafodaeth resymol a chadarnhaol, pasiodd y cyngor ei gefnogaeth i’r galw am Annibyniaeth i Gymru.
Er gwaetha’r bygythiad o storm anarferol o gas, llwyddwyd i gynnal Parêd Gwyl Ddewi Aberystwyth eleni. Roedd yn edrych yn debyg, am bum munud i un, mai dim ond seindorf arian y dref a fi oedd am orymdeithio. Ond rywsut, yn dawel fel Gwylliaid Cochion, fe ymddangosodd tyrfa wladgarol o gysgod siopau a chaffis. Ac yn Sgwâr y Brenin fe fynnodd y dorf ganu’r anthem genedlaethol hyd ei nodyn olaf er cael ei pheltio â chenllysg anferthol! Am bobl wydn! Am dre wych!
Bu nifer o uchafbwyntiau: Enillodd Parc Sglefrfyrddio Kronberg wobr Un Llais Cymru am y prosiect amgylcheddol gorau; Codwyd £800 i gronfa’r Maer – arian a rannwyd rhwng Ward fabanod Gwenllian ac elusen Hafal sy’n cefnogi pobl sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl. Gwelwyd hefyd “Bwyd Dros Ben Aber” yn agor eu siop yn Stryd y Ffynnon Haearn gan ddenu mwy o bobl i ddefnyddio’r bwyd fyddai, fel arall, yn cael ei wastraffu gan siopau.
Ges i gip olwg ar brosiectau a chynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol eleni – datblygu safle Gogerddan, yr Hen Goleg a’r Adran Filfeddygol; hyn oll yn newyddion pwysig i’r dref, gan fod y Coleg yn cyflogi cymaint o’n trigolion.
Er gwaethaf yr Encilio Mawr (neu o’i herwydd), gwelwyd creu tudalen Facebook i’r cyngor; trefnwyd gwirfoddolwyr i gynorthwyo trigolion bregus a gwnïo scrubs i weithwyr rheng-flaen y gwasanaeth iechyd; bu aelodau ysgolion lleol a’r Brifysgol yn gweithio i greu mygydau diogelwch i staff yr ysbyty. Ac fe ges i’r fraint o fod y maer cyntaf i gadeirio cyfarfodydd Cyngor Tref Aberystwyth ar Zoom!
Mae na lawer i’w wneud. Flwyddyn yn ôl wrth imi wisgo cadwyn y maer am y tro cyntaf, fe soniais mor bwysig i mi ydy busnesau lleol. Dyma asgwrn cefn tref ac arwydd o iechyd cymuned. Mae’r cyfnod diweddar wedi bod yn heriol i fasnachwyr lleol – a llawer wedi dangos eu creadigrwydd wrth ganfod dulliau amgen o weithredu modelau busnes gwahanol.
OND mae’r cyfnod nesaf yn hanes Aberystwyth a Chymru am herio pob un ohonom. Rhaid inni ofalu am ein gilydd a sicrhau anghenion bywyd i drigolion y dref – a rhaid inni gefnogi’n busnesau lleol er lles y gymuned gyfan.
Fe gofiaf yn hir y pethau bach sy’n gwneud Aberystwyth yn wych:
Grwp Aberystwyth Gwyrddach yn trefnu gosod placiau enwau tairieithog ar y coed yng nghoedlan Mhlascrug (chwiliwch amdanyn nhw!); grŵp plant Clwb Cŵl yn trafod cyfrifoldebau’r cyngor efo fi – gydag aeddfedrwydd ac ymwybyddiaeth ryfeddol; corau o Gymru a Norwy yn morio canu “Yma o Hyd” yng nghanolfan Morlan – a thafarn y Castell; Yna noson ddathlu degfed pen blwydd gefeillio Aberystwyth ag Esquel yn y Wladfa – a Jeremy a fi’n synnu’n hunain wrth ddysgu dawnsio Tango!
Wrth ymuno â grwp gefeillio Kronberg ar eu taith flynyddol i’r Almaen, tystiais i’r cyfeillgarwch cynnes sydd rhwng trigolion y ddwy dref – a gweld y gylchfan yn y ffordd yno a elwir yn Gylchfan Aberystwyth! Heddiw, yn fwy nag erioed, rhaid gwarchod a chynnal ein cyfeillgarwch â thrigolion ein gefeilldrefi. Rhaid datblygu’r dulliau cyfathrebu rhyngom, a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol sydd bellach yn gwbl arferol inni ers dechrau’r Gwanwyn. Cofiwch, os oes gennych chi ddiddordeb ymuno â grŵp gefeillio Kronberg, St Brieuc, Arklow, Esquel neu Yosano, cysylltwch â Chlerc y Cyngor yn swyddfa Cyngor y Dref.
Oedd wir, roedd yn fraint bod yn Faer tref Aberystwyth yn ystod 2019-20.
Dwi’n gwybod y bydd Y Cynghorydd Charlie Kingsbury yn gwneud ei orau glas dros y dref yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy’n dymuno’r gorau iddo ar ddechrau’i flwyddyn faeryddol. Braf gweld wyneb ifanc, lleol ac egni newydd yn dod i arwain y Cyngor.