gan
Iestyn Hughes
Dyma ‘ddyddiadur’ darluniadol lliwgar gan Iestyn Hughes o’r cyfnod caethiwus presennol, o’r ‘lockdown’ cyntaf, ymlaen i gyfnod o orfod cysgodi y tu fewn i ffiniau’r tŷ a’r ardd.
Mae pleser mawr i’w gael o ailddarganfod y pethau bychain o fyd natur sydd o’n cwmpas.
Os oes gennych ffôn clyfar diweddar, neu gamera gyda gosodiad ’macro’, beth am i chi fynd ati i ddal prydferthwch y ‘pethau bychain’ – y creaduriaid bach, megis y gwenyn a’r gloÿnnod, y petalau neu’r dail sy’n harddu’n byd? Neu, os oes gennych lens ‘zoom’, beth am geisio dal yr adar bach (a mawr!) sydd ar hyn o bryd yn brysur yn nythu o’n cwmpas?