Atgofion Eisteddfod ’92

Atgofion Telynores Faenor yn ymuno â’r Orsedd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Aberystwyth 1992.

gan Angharad Eleri Edwards

Atgofion Eisteddfod ’92

16 oed oeddwn i pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Aberystwyth ym 1992, a finnau’n cael fy nghroesawu i’r Orsedd am y tro cyntaf.

Ond serch mawredd a phwysigrwydd y digwyddiad hwnnw ar fore dydd Llun, roedd un peth yn Aberystwyth nad oedd yn malio dim am grandrwydd y seremoni – y tywydd! Diolch i’r glaw, bu’n rhaid anghofio am gael y seremoni ger meini hynafol y Castell a bodloni ar gampfa Ysgol Penglais yn lle hynny!

Cofiaf wylio fy ‘ffans’ ar y galeri – mam, dad, mam-gu ac Anti Enfys – y menywod yn ymdrechu i gael lluniau da gyda’u camerâu disg simsan yr olwg a dad ag anferth o gamera fideo yn pwyso ar ei ysgwydd. Wyddwn i ddim tan ar ôl y seremoni fod dad wedi bod yn sefyll ar sgert Anti Enfys drwy’r seremoni, a hithau druan yn ceisio tynnu lluniau a rhyddhau ei hun o sodlau trwm dad am yn ail!

Roedd y seremoni honno i dderbyn aelodau newydd yn deimlad rhyfedd a swreal tu hwnt. Y cwbl allen ni ei weld oedd môr o liwiau gwahanol, a finnau yn ei ganol yn fy lifrai gwyrdd. A allwn ni wneud dim ond syllu ar Geidwad y Cledd pan sylweddolais mai Ray Gravell ydoedd! Dyna pryd y sylweddolais fy mod yng nghanol enwogion Cymru – a oeddwn i’n haeddu anrhydedd o’r fath?

Wedyn, cael fy ngalw i’r blaen i gael fy nerbyn yn swyddogol a chael fy enw Gorsedd, ‘Telynores Faenor’ wedi’i gyhoeddi i’r fintai y tu ôl i mi, cyn cael fy arwisgo â’r benwisg werdd, a finnau’n gobeithio i’r nefoedd y byddent yn gadael ychydig o fy ‘fringe’ yn y golwg!

Yn anffodus, welais i fyth luniau o’r seremoni honno – roedd y camerâu bach un picsel yn rhy wan i gyrraedd blaen y gampfa ac mae’r camera fideo wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn.

Erbyn y prynhawn, roedd y tywydd wedi llacio rhywfaint a chawsom gyfle i ymlwybro drwy’r maes yng Ngelli Angharad at y Pafiliwn ar gyfer Seremoni’r Coroni. Rwy’n cofio teimlo’n chwithig iawn wrth i’r bobl syllu arnon ni’n mynd heibio, ond yng nghanol y chwithigrwydd hwnnw roedd hefyd elfen o falchder.

Ac yna’r Seremoni ei hun, lle y coronwyd Cyril Jones – am fraint cael bod ar y llwyfan! Ond serch urddas y Seremoni a phrydferthwch y merched del yn perfformio dawns y blodau, un peth a oedd ar flaen fy meddwl – pa mor boeth oedd hi yn y gwisgoedd o dan yr holl oleuadau a chamerâu! Pan mae’r Seremoni ar y teledu, mae’n edrych mor urddasol a rhamantaidd, ond ar faes y gad, yng nghanol y dorf amryliw ar y llwyfan, y cwbl a welir yw rhes o wynebau cochion, y chwys yn diferu i lawr eu hwynebau, a’r rhai hynaf yn eu plith gyda’i gwyntyllau bach batri llaw nas gwelwyd ers yr ’80au!

Bellach, rwyf yn aelod wisg las yn yr Orsedd ac yn cael fy adnabod fel ‘Angharad Ben Aur’. Bydd bron 30 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ddod i gyffiniau Aberystwyth – rwyf wedi colli hanner y ‘ffans’ oedd gen i yn ’92 a Robin McBryde yw Ceidwad y Cledd bellach, ond mae’r un teimladau’n parhau – balchder, gostyngeiddrwydd a braint (ac ychydig o chwithigrwydd o hyd!).