Arwyr Heddlu Aberystwyth

Nifer o heddweision Aberystwyth yn derbyn gwobrau dewrder

Llongyfarchiadau i PC Ian Chattun ar ennill dwy wobr am ddewrder – un gan y Gymdeithas er Diogelu Bywyd rhag tân, pan achubodd Ian ddynes o’i fflat oedd yn llosgi.

Enillodd y wobr arall, Gwobrau Dewrder yr Heddlu am achub bywyd Rhian Casey, myfyrwraig 21 mlwydd oed, o’r môr gyda’r nos yn Aberystwyth. Ar y cyd gyda Rhingyll Katy Evans, enwebwyd Ian am wobr genedlaethol drwy Brydain, ond cafodd y seremoni ei oedi tan Fehefin 2021.

Yng nghylchgrawn Police mis Tachwedd, mae Rhian yn trafod yn ddewr yr argyfwng iechyd meddwl a wynebodd a arweiniodd ati i fynd i’r môr yn Aberystwyth a diolch i’r ddau swyddog a aeth i mewn ar ei hôl mewn gwisg lawn, ac mae’n datgelu’r hyn a ddywedon nhw a’i perswadiodd i ddod yn ôl i ddiogelwch.

Katy Evans

Heb fod yn hunanol, aeth y ddau swyddog i’r dŵr mewn lifrai llawn, yn cael eu pwyso gan eu hoffer diogelwch ac arfwisg y corff. Yn eu hymdrechion llwyddiannus i ddod â hi i ddiogelwch, cafodd y ddau swyddog eu boddi yn y dŵr yn llwyr.

Gan dalu teyrnged i’r ddau wnaeth fentro i’w hachub, dywedodd Rhian: –

Rhoddodd y ddau eu bywydau eu hunain mewn perygl i ddieithryn. Doedden nhw ddim yn gwybod unrhyw beth amdani i, jest wedi ymateb heb feddwl. Mae hyn yn fwy na gwaith yr heddlu. Dwi yn credu eu bod wedi gwneud hyn oherwydd eu bod yn poeni amdana i. Maen nhw yn bobl dda, ac nid ydynt eisiau fy ngweld yn marw.

Mae Rhian yn onest ei bod wedi dioddef o iechyd meddwl ers 2018, ac fe yrrodd negeseuon i’w ffrindiau i ffarwelio. Nofiodd y ddau heddwas tuag ati, gyda Ian yn nodi fod ganddo deulu a phlentyn bach, ac nad oedd e eisiau boddi. Sylweddolodd Rhian ei bod yn rhoi bywydau’r heddweision mewn perygl, yn ogystal â’i bywyd ei hun. Roedd hyn yn symbyliad iddi gael yr help yr oedd ei angen.

Dywedodd Roger Webb, Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Dyfed Powys:

“Roedd hyn yn weithred ddewrder anhunanol gan y ddau heddwas yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd a achubodd fywyd person ifanc bregus yn ddi-os.”

Hefyd, derbyniodd PC Sarah Edwards wobr an y Gymdeithas er Diogelu Bywyd rhag tân, pan achubodd Sarah ddynes o’i fflat oedd yn llosgi ym mis Awst 2019.

Sarah Edwards

Rhaid cofio hefyd fod Tîm y Ddalfa Aberystwyth wedi derbyn gwobr am dîm y flwyddyn. Gyda hanner y tîm yn siarad Cymraeg, mae nifer wedi nodi y dylai’r ddalfa yn Aberystwyth fod ar Trip Adviser!