#arosmewnmawr

snapshot o fy snaps

Catrin M S Davies
gan Catrin M S Davies

I “ddathlu” 200 diwrnod ers y clo mawr, neu’r #arosmewnmawr fel rydw i’n hoffi ei alw, mi es i yn ôl i edrych ar fy nghyfrif instagram i atgoffa fy hun o’r lluniau wnes i eu postio drwy’r cyfnod. Dyma yw fy nyddiadur i o’r cyfnod gan i fi roi llun neu ddau neu dri yno bob dydd. Mae ambell i ddiwrnod yn wag ond dim ond un neu ddau, a hynny dim ond ar ôl i’r clo gychwyn llacio. Roedd yn rhaid ei wneud yn feunyddiol cyn hynny!

Ar y cychwyn mi o’n i’n cymryd gofal mawr i dynnu lluniau oedd yn cofnodi’r golygfeydd a byd natur gan eu bod yn newid mor gyflym a hithau’n wanwyn cynnar. Y thema arall gref yw cofnodi unrhyw daith oedd yn bosib. Gan bod Alun (Elidyr) fy mhartner yn cyflwyno #Ffermio i @S4C ac hefyd yn ffermio mi oedd e’n cario ymlaen gyda’i waith bob dydd ac mi ges i ffilmio eitemau a dyddiaduron ar gyfer y rhaglen gan na allai criw deithio i’r ffarm pan oedd y clo ar ei anterth. Mi oedd cael ffilmio a chreu eitemau teledu yn fwynhad pur. A mi fues i hefyd yn ddigon lwcus i gael cyfres i’w gwneud i S4C yn y cyfnod clo – sef #FfilmiauDdoe. Roedd y sicrwydd gwaith, a’r pleser o waith cynhyrchu yn wych. O’n i mor ffodus.

Mae’r lluniau o’r ffarm, y teithiau i gasglu’r defaid tac adre, mynd i nôl tarw oedd Alun wedi ei brynu dros y we a mynd â’r defaid i’r mynydd i gyd yn dangos pa mor lwcus ydyn ni i fyw yng nghefn gwlad a chael rhyddid i’w grwydro pan oedd pawb arall o dan glo yn eu tai am 23 awr y dydd.

Themâu eraill oedd cael trefn ar yr ardd, treulio mwy o amser yn coginio, troi at waith llaw – crosio – nad o’n i wedi ei wneud ers blynyddau a chwisys zoom. A lluniau o unrhyw newid mewn rheolau – gallu teithio, gallu cyfarfod ffrindiau tu allan ..

Dyma lond dwrn o luniau sy’n cynrychioli rhai o uchafbwyntiau’r cyfnod.