Mae un o lwybrau mwyaf poblogaidd ardal gogledd Ceredigion wedi’i ailagor yn dilyn effaith niweidiol nifer o stormydd geirwon.
Yn ystod cyfnod y clo yn sgil y Coronafeirws, a phawb ohonom yn gaeth i’n cartrefi a’r ardal gyfagos, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cerddwyr ar Lwybr Llên Llanfihangel Genau’r Glyn.
Ond cyn diwedd y cyfnod o gyfyngiadau llethol, fe fu’n rhaid cau’r llwybr am fod canghennau trymion wedi disgyn gan greu anawsterau a allai fod yn beryglus i gerddwyr.
Gwelir effaith stormydd geirwon y tair blynedd diwethaf ar y goedlan, a gadawyd coed a boncyffion yn gorwedd ar y llechweddau. Er hynny, bob tro y cafwyd trafferthion fe lwyddwyd i addasu ac i adfer y llwybr.
Agorwyd y Llwybr Llên ym mis Mai 2012 gan yr Archdderwydd ar y pryd, Jim Parc Nest, a daeth cannoedd o bobl ynghyd i’r achlysur a’r penwythnos o ddathliadau yn y pentref. Crëwyd y llwybr fel dathliad parhaol o’r enw hyfryd Llanfihangel Genau’r Glyn ac fel cydnabyddiaeth o draddodiad barddol y fro, gan roi’r cyfle i fwynhau cerddi ein beirdd yn nhawelwch a naws arbennig y goedwig.
Bu Dafydd ap Gwilym yn crwydro’r ardal ac mae nifer o feirdd ac arlunwyr wedi canu clodydd y fro, ac mae yna nythaid o feirdd cydnabyddedig yn byw yn yr ardal heddiw.
Gwneir defnydd cyson o’r goedwig gan bobl leol ac ymwelwyr; daeth yn adnodd lleol pwysig o ran treftadaeth a bywyd gwyllt ac mae’n cyfrannu at ansawdd bywyd, iechyd a diwylliant y fro.
Nawr mae’r Llwybr Llên ar agor unwaith eto ac mae pob croeso i chi ei gerdded a’i fwynhau. Mae’r fynedfa wrth ymyl porth Eglwys Llanfihangel Genau’r Glyn, ac mae lle parcio wrth law. Gallwch gerdded y llwybr yn hamddenol o fewn llai nag awr, a byddai’n ddoeth eich bod yn gwisgo esgidiau addas a bod côt law ar gael, jyst rhag ofn.
Wynne Melville Jones