Agor caffi newydd ar lan y môr

“Aberystwyth yw fy nghartref a chartref fy musnes a dwi wrth fy modd yma, felly mae gallu creu swyddi i bobl leol a thyfu ein tîm yn anhygoel.” 

gan Miriam Glyn

Agorodd caffi newydd Ridiculously Rich by Alana ddiwedd mis Hydref, a hynny o dan amgylchiadau gwahanol iawn i’r hyn yr oedd y tîm wedi ei ddisgwyl. O ganlyniad i’r ail gyfnod clo yng Nghymru, chwalwyd eu syniadau gwreiddiol ar gyfer croesawu cwsmeriaid i’r caffi, ac roedd rhaid iddynt fodloni ar gynnig gwasanaeth tecawe yn unig.

Mae’r cyfyngiadau wedi llacio rhywfaint erbyn hyn ond, oherwydd maint y caffi, ni fydd modd i gwsmeriaid eistedd y tu mewn am y tro. Fodd bynnag, yr wythnos hon, mae’r tîm wrthi’n rhoi cynlluniau newydd ar waith i greu ardal eistedd wedi ei gwresogi y tu allan i’r caffi. Bydd y trefniant hwn yn sicrhau bod modd i bawb gadw pellter cymdeithasol ac aros yn ddiogel. Hefyd, bydd modd i gwsmeriaid fenthyg cadeiriau a mynd å nhw i’r traeth er mwyn manteisio ar y golygfeydd wrth fwynhau eu danteithion.

Er gwaethaf heriau’r misoedd diwethaf, sydd wedi cael effaith drychinebus ar y diwydiant arlwyo a lletygarwch, mae’n braf gweld bod busnesau bach annibynnol yn parhau i ddatblygu a ffynnu yma yn Aberystwyth. Dywedodd Alana Spencer, perchennog Ridiculously Rich by Alana, ei bod wedi bod yn gyfnod anodd iawn iddynt a’u bod ar sawl achlysur wedi dechrau amau a fyddai modd iddynt ddal ati.

Drwy newid prif ffocws y busnes a chanolbwyntio ar werthu cacennau ar-lein, maent wedi llwyddo i gynnal y cwmni. Yn ôl Alana, mae’r gallu hwn i addasu yn hollbwysig wrth redeg busnes, ac maent yn cydnabod y bydd gofyn iddynt fod yr un mor hyblyg yn y dyfodol gan fod y sefyllfa yn newid yn barhaus.

Elfen arall sy’n ganolog i lwyddiant y busnes yw’r gefnogaeth leol. Dywedodd Alana:

“Mae‘r gefnogaeth wedi bod yn hollol anhygoel. A bod yn onest, doeddwn i ddim yn sylweddoli bod cynifer o bobl yn Aberystwyth! Mae gennym giw bron drwy’r amser ers inni agor, ac mae llawer wedi dweud wrthym eu bod wedi dod i’r caffi dim ond er mwyn ein cefnogi. Rydyn ni’n teimlo‘n eithriadol o lwcus.”

Mae’r busnes erbyn hyn yn mynd o nerth i nerth ac maent wrthi’n recriwtio rhagor o staff. Fel tref sy’n dibynnu llawer ar dwristiaeth, mae’r busnes yn falch o allu rhoi rhywbeth yn ôl i‘r ardal leol drwy greu cyfleoedd gwaith:

“Aberystwyth yw fy nghartref a chartref fy musnes a dwi wrth fy modd yma, felly mae gallu creu swyddi i bobl leol a thyfu ein tîm yn anhygoel.”

Gyda’r dyfodol yn dal i fod yn un ansicr, ni fydd y busnes yn bwrw ymlaen ag unrhyw gynlluniau newydd am y tro, ond yn gobeithio y bydd modd parhau i ddatblygu rhyw ddydd. Er y gall y syniad o ddechrau busnes ymddangos yn frawychus ar y funud, mae Alana yn annog unrhyw un sy’n ystyried mentro i fyd busnes i fynd amdani:

“Siaradwch å’ch ffrindiau, eich teulu, eich cymuned, a defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol, mae llawer o help i’w gael dim ond i chi ofyn. Yn olaf, byddwch yn amyneddgar. Mae rhai pethau yn cymryd mwy o amser nag y byddech wedi ei hoffi ond, drwy ddyfalbarhau, gallwch lwyddo!”