Ychydig dros chwe mis yn ôl, ar fore Sul, 8 Mawrth, croesawyd ein cyn-weinidog, y Parch Elwyn Pryse, i bulpud Capel y Garn, wrth iddo ymddeol o gynnal oedfaon ar ôl cyfnod o dros 70 mlynedd. Ar ôl paned yn y festri ar ddiwedd y gwasanaeth, aeth dros 30 o aelodau a chyfeillion draw i Glwb Golff y Borth i nodi’r achlysur.
Atgof pleserus o’r oes a fu yw’r diwrnod hwnnw erbyn hyn, ac mae bore Sul bellach yn golygu tanio’r rhaglen Zoom ar y cyfrifiadur neu’r iPad er mwyn ymuno â gwasanaeth rhithiol, dan arweiniad ein gweinidog presennol, y Parch Ddr Watcyn James.
Wrth i’r firws ymledu tua diwedd Mawrth gan arwain at y Cloi Mawr, daeth yn glir na fyddai’n bosib dilyn trefn arferol y Sul yng nghapeli’r ofalaeth. Felly, roedd yn rhaid dechrau meddwl am ffyrdd amgen o gyfathrebu â’r aelodau a chynnig deunydd defosiynol i’w cynnal yn yr argyfwng.
Y peth cyntaf wnaethon ni oedd sefydlu tudalen Facebook Capel y Garn – yn agored i bawb, yn ogystal â sianel YouTube Capel y Garn, lle gellid uwchlwytho fideos yn cynnwys myfyrdodau gan ein gweinidog. Mae’r myfyrdodau hefyd ar gael ar Soundcloud. Roedd gennym eisoes wefan (www.capelygarn.org) a chyfri Twitter (@capelygarn).
Ond er bod ymateb cadarnhaol i’r myfyrdodau fideo, roeddem yn colli’r elfen o gydaddoli a chymdeithasu sy’n gymaint rhan o’r profiad o fynd i wasanaeth. Felly, penderfynwyd rhoi cynnig ar wasanaeth dros Zoom ar fore Sul. Yn betrus, ymunodd 21 o aelwydydd yn y gwasanaeth cyntaf ym mis Mai, a bellach mae’r nifer wedi cynyddu i dros 30 o aelwydydd – gan gynnwys nifer sy’n ymuno i wrando ar y ffôn.
Fe aethon ni ati hefyd i gynnal sesiwn Paned a Chlonc ar fore Mercher – cyfle i gael sgwrs anffurfiol, rhannu hoff gerdd a gwrando ar ambell ddarn o gerddoriaeth.
Mae’n braf gweld yr wynebau cyfarwydd o Sul i Sul, a dal i fyny â’r newyddion diweddaraf, cyn rhannu defosiwn – ac elfennau’r cymun o bryd i’w gilydd – a thrafod ambell gwestiwn heriol mewn grwpiau llai. Difyr ydi’r sgwrsio a’r trafod.
Y Sul nesaf, 4 Hydref, byddwn yn mynd yn ôl i gynnal oedfa yn y capel am y tro cyntaf (os bydd amgylchiadau’n caniatáu), ond bydd y gymdeithas glòs sydd wedi datblygu dros Zoom yn parhau i gwrdd am y tro.
Mae croeso i unrhyw un ymuno – i’r gwasanaeth a’r ysgol Sul, sy’n dilyn. I gael y manylion, anfonwch air at: gweinidog@capelygarn.org