Daeth Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch ynghyd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020.
Mae’r darlleniadau a recordiwyd ar Zoom ar gael yn rhad ac am ddim o ddydd Llun 29 Mehefin 2020 ar sianel #carudarllen y Cyngor Llyfrau ar blatfform amam.cymru yn ogystal ag ar Hwb, gwefan dysgu digidol Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd Gwobrau Tir na n-Og gan Gyngor Llyfrau Cymru yn 1976 i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc, a thrwy hynny hybu prynu a darllen llyfrau da. Ers 1976, mae rhai o awduron mwyaf blaenllaw Cymru wedi ennill y wobr gan gynnwys Emily Huws, T Llew Jones, Caryl Lewis, Gareth F Williams ac Angharad Tomos.
Yn sgil gohirio pob cynhyrchiad theatrig, mae actorion Arad Goch yn Aberystwyth wedi bod yn perfformio ac yn recordio’u lleisiau dros y we.
Gyda phawb yn cyfrannu o’u cartrefi a Jeremy Turner yn cyfarwyddo o bell, mae’r actorion wedi bod yn darllen detholiadau o’r chwe llyfr Cymraeg a gyrhaeddodd y brig yng ngwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og eleni – tri yn y categori ar gyfer plant oedran cynradd a thri yn y categori uwchradd.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ansawdd llyfrau Tir na n-Og wedi bod yn arbennig o uchel unwaith eto eleni ac mae rhannu’r gwaith creadigol yma gyda phlant a phobl ifanc yn hollbwysig. Mewn cyfnod pan fo’r llyfrgelloedd a’r ysgolion ynghau, rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Arad Goch am weithio gyda ni i greu cynnwys Cymraeg gwreiddiol ac unigryw sydd ar gael yn ddigidol ac yn rhad ac am ddim. Ein gobaith yw y bydd y darlleniadau yma’n adnodd gwerthfawr i ysgolion a rhieni yn y cyfnod hwn a thu hwnt, ac yn dod â mwynhad i blant a phobl ifanc ar draws Cymru. Hoffem ddiolch i Arad Goch, i’r cyhoeddwyr Atebol a’r Lolfa, ac i’r awduron am eu cefnogaeth frwd.”
Yn y cyfamser, beth am edrych ar fideos yr awduron a’r beirniaid yn esbonio pwysigrwydd y llyfrau ar sianel y Cyngor Llyfrau – amam.cymru/carudarllen
Dywedodd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch: “Mae gan Gwmni Theatr Arad Goch hanes hir a llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth a chyd-gynhyrchu gyda sefydliadau yng Nghymru a thramor, gan gynnwys y Cyngor Llyfrau sawl gwaith yn y gorffennol. Yn ogystal, rydyn ni wedi creu cynyrchiadau theatraidd o sawl stori a llyfr. Rydyn ni felly wedi bod yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r Cyngor Llyfrau unwaith eto yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn i greu recordiadau o’r llyfrau gwych sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Fe fwynheais i ddarllen pob un ohonyn nhw a hoffwn ddiolch i’n hactorion, ein technegwyr a’n golygydd am eu gwaith. Diolch hefyd i Gyngor y Celfyddydau am ei gefnogaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”
Ymhlith y darllenwyr mae’r actorion Ffion Wyn Bowen, Lynwen Haf Roberts, Gruffydd Evans ac Ioan Gwyn, gydag Eugene Capper yn dechnegydd sain a Carwyn Blayney yn gyfrifol am y gwaith golygu.
Bydd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 yn cael eu cyhoeddi ar raglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf, gydag enillydd y categori Saesneg yn cael ei gyhoeddi ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf 2020.