Aberystwyth, Ffrainc a’r Rhyfel Mawr: Inffliwensa 1918

Aled Morgan Hughes sydd yn olrhain hanes ffawd milwr o ardal Aberystwyth a fu farw o Ffliw Sbaen.

Aled Morgan Hughes
gan Aled Morgan Hughes

Aled Morgan Hughes sydd wedi bod wrthi’n olrhain effaith Ffliw Sbaen ar ardal Aberystwyth, ac yn benodol yn yr achos yma, hanes un milwr penodol

Gwta ganrif yn ôl wynebodd y byd afiechyd argyfyngus arall – Ffliw Sbaen, neu’r Inffliwensa. Rhwng 1918 ac 1920, mewn sawl ton farwol, hawliodd y ffliw rhwng 17 a 50 miliwn o fywydau yn rhyngwladol – a dros 10,000 yma yng Nghymru.

Er iddo ymledu i bob cymuned a thaflu cysgod oeraidd dros yr ugeinfed ganrif, mae’r cof am y ffliw wedi’i gaethiwo’n bennaf i’r llyfrau hanes – rhyw droednodyn sy’n canlyn gorfoledd a rhyddhad diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, neu ryw bennod anghofiedig mewn hanes teulu am hen anti neu yncl a fu farw’n gynamserol o’r haint.

Er ei fod wedi’i esgeuluso gan rai, does dim dwywaith na chafodd y salwch effaith ddifrifol ar gymdeithas y cyfnod – ac yn benodol pan oedd yn ei anterth ar faes y gad yn Ffrainc ym misoedd olaf y Rhyfel, lle ddatblygodd y llysenw ‘la grippe’ (trench fever). Nid oedd y salwch yn gwahaniaethu rhwng gelyn a chyfaill – ac yr oedd dynion ifanc yn eu hugeiniau ymysg y rhai a ddioddefodd waethaf o’r salwch. Fe wnaeth yr haint, yn ei dro, ladd mwy o filwyr Americanaidd nag y gwnaeth yr Almaenwyr. Yn ehangach, oherwydd y rhyfel a’r ffaith fod pobl yn symud o gwmpas cymaint yn sgil brwydro ac yna’r cadoediad, ymledodd y salwch i bedwar ban byd – a chael y teitl ‘Armistice Flu’ mewn rhai gwledydd.

Fel trefi eraill ar draws y byd, cafodd y rhyfel – a’r ffliw yn ei dro – effaith bellgyrhaeddol ar Aberystwyth. Cawn ein hatgoffa heddiw o’r aberth eithaf a wnaed gan ormod yn y rhyfel gan y gofgolofn drawiadol ger castell y dref. Mae’n cynnwys enw Richard William Milman yn un enw ymysg cannoedd – atgof o ddicter tawel Ffliw Sbaen, ymysg hunllef ac erchylltra dynol ehangach y rhyfel.

Ganwyd Richard William Milman – neu Dick i’w gyfeillion – ar 1 Medi 1892 yn Aberystwyth. Cymraes o Aberystwyth oedd ei fam, Sarah Milman (nee Jones), ond o Dartmouth yn Nyfnaint y deuai ei dad, Henry, a oedd yn forwr.

Cafodd Dick ei fagu yn Aberystwyth gyda’i chwaer hŷn, Maggie, ac mae cofnodion o’r cyfnod yn tystio ei fod yn aelod brwd o’r ysgol Sul leol yn Nhrefechan ac roedd ganddo gariad tuag at Gristnogaeth ar hyd ei fywyd. Mewn teyrnged iddo adeg ei farw, dywedir iddo fyw “a shining life as a Christian in word and action”.

Erbyn 1910, ychydig ddyddiau cyn iddo droi’n ddeunaw oed, gwelwn o gofnodion cyflogaeth y rheilffordd fod Dick yn gweithio i reilffordd y Great Western yn y dref fel glanhawr, a’i dad hefyd yn ymuno â’r cwmni erbyn 1911 fel gard.

Ym mis Medi 1910, gwelwn Dick hefyd yn cofrestru gyda’r fyddin wrth gefn (Territorial Force) fel rhan o’r Cardiganshire Battery Royal Field Artillery. Byddai’n parhau’n aelod gweithgar o’r uned, gan gwblhau’r ymarfer blynyddol yn 1912, 1913 a 1914.

Gyda thensiwn ar y Cyfandir yn sbarduno cychwyn y Rhyfel Byd a Phrydain yn ymuno ym mis Awst 1914, galwyd Bombadier R W Milman a’i gyfoedion i’r fyddin yn fuan wedyn. Fodd bynnag, mae’n ymddangos mai aros fel milwr wrth gefn ar y ffrynt cartref wnaeth Dick yn y cyfnod cyntaf yma, gan ddod yn aelod o’r 68th (2nd Welsh) Division a sefydlwyd yng ngwanwyn 1915.

Aros ym Mhrydain yn ystod y misoedd a ddilynodd wnaeth Dick, a hynny mewn meysydd hyfforddi yn Northampton, Earlswood a Bedford. Ni fu ei gyfnod gyda’r 2nd Welsh yn fêl i gyd – gyda’i gofnod milwrol yn nodi i’w statws gael ei newid o bombadier i gunner am “insubordination” (h.y. anwybyddu cyfarwyddiadau!). Derbyniodd 14 diwrnod o gosb bellach am gysgu wrth gyflawni ei ddyletswyddau ar 12 Awst 1915. Er hyn, nodwyd ar ei gerdyn milwrol fod natur gyffredinol ei gymeriad yn “Very Good”.

Erbyn mis Ionawr 1916, wynebai Dick, a oedd wedi cofrestru fel milwr am 5 mlynedd ac 19 diwrnod, gyfyng-gyngor. Yn unol â deddfwriaeth y cyfnod, wedi cyfnod fel hwn o wasanaeth, roedd hawl ganddo i gamu ’nôl a dychwelyd i’w fro, ond fe benderfynodd ailymuno â’r fyddin.

Mae prinder cofnodion milwrol yn ei gwneud hi’n anodd canfod union lwybr Dick weddill 1916 hyd ei farwolaeth ym mis Rhagfyr 1918. Fodd bynnag, erbyn Hydref 1916 roedd ar faes y gad yn Ffrainc, ac yn ystod y ddwy flynedd a ddilynodd, mae’n ymddangos iddo dreulio amser gyda’r Army Service Corps (ASC), y Divisional Ammunition Column (DAC), ac yn olaf (fel a nodir ar ei dystysgrif marwolaeth) gyda Battery Guards Trench Mortar yr RAF (Royal Field Artillery).

O fis Rhagfyr 1916 ymlaen, bu Dick yn ysgrifennu’n rheolaidd i’r papur newydd lleol, y Cambrian News, am ei brofiadau ar y ffrynt. Wrth reswm, mae’r cynnwys a’r manylion wedi eu sensro’n sylweddol, ond maent yn cynnig cipolwg amhrisiadwy ar ei fywyd a’r rhyfel.

“We are out for a short time after being in for ten or twelve weeks. The poor horses have also worked hard in all this mud. Remember me to all the kind friends at dear old Aber.” – Cambrian News 08/12/1916

“It will “be a time” when the boys come home. We shall never be able to repay you for your kindness to us. The weather has broken and the mud is well over our boots again. I am glad to tell you that now the poor horses have stables. So they are a good bit better off. I thank you for the little cards which I often read and think the world of them. If ever I come home I shall always keep them.” – Cambrian News 09/03/1917

“We have been busy since I last wrote to you, being moved from one place to the other.  I saw JD Morgan and had a long chat with him about dear old Aber. I was sorry to hear about the death of your son. I was glad to see in the Cambrian News that you intend having a Y.M.C.A. in the town. I hope it will prove a success. I am in good health. I trust the Lord will keep us all from harm and bring us back again soon. We are having fine weather and we can do with it for the poor horses sake which have done their share in this terrible war.” – Cambrian News 06/07/1917

Mae’r cyfeiriad at sgwrs â’i gyd-Gardi, J. D. Morgan, yn ddiddorol yma – a ddim yn rhywbeth anghyffredin wrth ystyried y nifer fawr o ddynion Sir Aberteifi aeth i ymladd dramor. Mewn llythyr ar 9 Chwefror 1919, soniai Signaller W Richards o Aber ei fod yntau wedi cael sgwrs hefo ‘Dicky’ Milman.

Mae llawer o sôn am geffylau yn amryw o gyfraniadau Dick yn ystod y misoedd hyn. Lladdwyd tua 8 miliwn o geffylau dros gyfnod y rhyfel ac mae’r dyfyniad isod yn cyfeirio at golli nifer ohonynt a’u rôl allweddol wrth gludo’r gynnau o fewn yr unedau lle y gweithiai Dick.

“A few nights ago Fritz came over with his aeroplanes and dropped bombs on our camp. The first he dropped a good way from us but the others dropped within twenty yards from where I was and I thought my time had come. But thank God, he was driven off; but not until he had killed three of our boys, wounded seven and killed sixty horses. We do not get that much chance of holding services now. The only and best thing to do is pray and I trust in the Lord. I trust that I shall be kept to come home again. I am in the best of health so far. I look after the cards you send, which are very encouraging. I am pleased to know that you have started a Y.M.C.A. at Aber. I can assure you if I am spared I shall be one of its members.” – Cambrian News 24/08/1917

“I hope to be home on leave shortly, when I shall be able to thank you all personally for the great kindness shown to me since I have been here. It is very sad to see that so many Aber boys have fallen. All we can do is put our trust in God and look to Him to bring us safe to our dear ones.” – Cambrian News 19/10/1917

Gyda Dick yn Fethodist balch, gwelwn gryfder ei ffydd yn cael ei amlygu yn amryw o’r llythyrau hyn, ynghyd â’i ddiolchgarwch a hiraeth am y dref a’i thrigolion, a fyddai’n anfon cymorth a chyfarchion i’r milwyr ar y ffrynt o dro i dro:

“I am glad of the card. It has put new life in me. Now we have Christmas near we are thinking of home, be we are also looking forward to a good time.” – Camrbian News  04/01/1918

“Since I last wrote great things have happened. We have been busy. The horses have been hard worked and I can tell you that they have done a big share in this war. I have never been so grateful for the parcel than this time as cigs are so hard to procure. I share the cigs with my pals and they are all delighted. The little card is a great help to me in these hard times. I think it is the duty of every man here to pray to God to end this terrible war. I met a chap from Trefechan from returning from leave. I do not think this affair will last long. I hope to be home in a month’s time. I will put my trust in Him to look after me until then.” – Cambrian News 04/10/1918

Yn anffodus, dyma’r cofnod olaf a gafwyd gan Dick yn y Cambrian News. Roedd ei dybiaeth na fyddai’r rhyfel yn para’n llawer hirach yn gywir, ac er iddo fyw i weld y cadoediad fis yn ddiweddarach ar 11 Tachwedd 1918, ni chafodd ddychwelyd i’w fro enedigol yn Aberystwyth.

Yn hytrach, bu farw Dick o Ffliw Sbaen ar 6 Rhagfyr 1918 mewn ysbyty milwrol ar y ffrynt (4th Casualty Clearing Station) – a hynny yn 26 oed. Dyma oedd ail don farwol y Ffliw, a barhaodd drwy gydol hydref 1918 tan ddiwedd y flwyddyn. Dadleua rhai haneswyr i ffyrnigrwydd y don hon, a’i heffaith ar ysbryd y milwyr yn ogystal â’r boblogaeth ar y ffrynt cartref, fyrhau’r brwydro yn sylweddol.

Claddwyd Dick ym mynwent filwrol Solesmes, ger Cambrai, Ffrainc. Ac yntau’n aelod o Gapel y Tabernacl yn nhref Aberystwyth, chwaraewyd ‘Dead March’ Handel fel teyrnged iddo mewn gwasanaeth yn fuan wedi’i farwolaeth, ac ychwanegwyd ei enw at gofeb rhyfel y dref ger y castell a chofeb chapel y Tabernacl.

Ar un llaw, mae stori R. W. Milman yn un hynod o gyffredin a chyfarwydd, ac nid ydyw yn ddim ond un enw arall ymysg y miloedd o ddynion ifanc fentrodd o’u bro i faes y gad yn Ffrainc ond na ddaeth yn ôl. Fodd bynnag, mae ei ffawd anffodus hefyd yn cynrychioli cenhedlaeth o ddynion ifanc ar ddwy ochr y brwydro a oroesodd drwy uffern y bomio, y ffosydd a ffrwydron y gyflafan ddynol – dim ond i brofi’r anlwc o syrthio wedi’r cadoediad i elyn anweledig Ffliw Sbaen.

Flwyddyn yn union wedi ei farwolaeth, cafwyd teyrnged ddirdynnol i Dick yn y Cambrian News gan ei deulu, gan atseinio’r golled ehangach, yng nghymdeithas Aberystwyth a thu hwnt, a’r hiraeth am y rhai na ddychwelodd o’r Rhyfel Mawr:

“In loving memory of Gunner R.W. Milman (Dick) X Guards, only beloved son of Mr and Mrs Henry Milman, Harbour Terrace, Trefechan who died in France, December 6th 1918.

One year has passed, our hearts still sore,
As time rolls on we miss him more.
Somewhere in France among the brave,
Lies our deay boy in a hero’s grave.
Too dearly loved to be forgotten. ” – Cambrian News 05/12/1919

Gyda chydnabyddiaeth i Papurau Newydd Cymru ac Ancestry.com am y ffynonellau.