Aberystwyth a Ffliw Sbaen 1918/9

Aled Morgan Hughes sy’n olrhain ymateb Aberystwyth i her Ffliw Sbaen 1918/9

Aled Morgan Hughes
gan Aled Morgan Hughes

Aled Morgan Hughes sydd wedi bod wrthi’n olrhain effaith Ffliw Sbaen ar Geredigion, gan edrych yn benodol yma ar ymateb yr awdurdodau wrth fynd i’r afael ar haint yn nhref Aberystwyth.

Mae ymateb Cyngor Sir Ceredigion i her COVID-19 wedi ennill canmoliaeth eang – gan fynd i’r afael â bygythiad brawychus yr haint drwy gyfres o fesurau cadarn, effeithiol.

Fodd bynnag, gwta ganrif yn ôl wynebodd y sir, a thref Aberystwyth fygythiad haint argyfyngus arall – Ffliw Sbaen. Lledaenodd y ffliw i bedwar ban byd; o gyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf yn Fflandrys, i bellafoedd ynysoedd anghysbell y Cefnfor Tawel. I’r rheiny a fu dioddef o’r haint byddai’r symptomau yn aml ddigon brawychus; y croen yn tywyllu, yr ysgyfaint yn mygu ar hylifau, a marwolaeth yn aml yn dilyn o fewn diwrnod neu ddau – neu hyd yn oed oriau.

Ymddangosodd yr haint gyntaf ar droad 1918 – gyda’i anterth yn cael ei brofi mewn tair prif don. Yng Ngheredigion a Chymru, ail don Hydref/Tachwedd 1918 profodd i fod y fwyaf niweidiol – gydag ymdrechion awdurdodau i fynd i’r afael â’r haint yn aml yn aflwyddiannus.

Ceir y crebwyll cyntaf i Ffliw Sbaen yng Ngheredigion yn rhifyn Tachwedd 1af, 1918 o’r Cambrian News – gan nodi fod “rapid advance” o’r inffliwensa wedi ei brofi mewn amryw o ardaloedd o’r sir. Gyfochr a’r datganiad yn rhybuddio am ledaeniad y ffliw, cafwyd hefyd adroddiad manwl gan Dr L. Meredith Davies (prif swyddog meddygol y sir) a chynigai fewnwelediad diddorol i’r camau y dylai trigolion eu dilyn mewn ymateb i’r haint:

On first suspecting influenza the best advice is ‘keep warm; go to bed and stay there.’ Take an aperient e.g. Calomel, 1.2 grains at night, followed by Epsom salts in the morning. Call in a doctor. Ammoniated quinine is good, also a glass of hot lemon water at night while in bed. Gargle the throat with a diluted disinfectant. Plenty of fresh air is good but avoid draughts.

People who are used to alcohol should be especially careful of not getting a chill. People suffering from influenza should remember that they are infectious and may give it to others.

Do not expectorate in public. Infected handkerchiefs, after use, should be well boiled or soaked in carbolic or burnt. Isolation – A person with influenza should occupy a room apart from the rest of the household. Do not go to work or go to school if influenza is suspected.

Ynghyd â’r canllawiau uchod am iechyd cyhoeddus, gweler awdurdodau’r cyfnod yn mynd ati i gyflwyno amryw o gamau i geisio mynd i’r afael a lledaeniad yr haint yn yr ardal.

Mae’n bwysig cofio roedd Aberystwyth yn 1918 yn le gwahanol iawn i’r presennol – gan felly gymeriadau ymateb gwahanol (ond eto tebyg) i’r argyfwng COVID-19. Gyda’r cyd-destun o ryfel gwaedlyd, ynghyd ac absenoldeb gwasanaeth iechyd cenedlaethol – a hyd yn oed prinder adran iechyd penodedig yn y Llywodraeth – prif gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol (ac yn benodol y Cynghorau Tref) oedd i weithredu er mwyn mynd i’r afael â her y ffliw. Byddai’r pwyslais yma ar weithredu’n lleol i fynd i’r afael â Ffliw Sbaen yn cymeriadu gwahanol ymatebion mewn gwahanol ardaloedd – a hyd yn oed gwahaniaethau sylfaenol o dref i dref o fewn siroedd.

Mewn cyfarfod Cyngor Tref ddiwedd Hydref 1918, cydnabuwyd bod Aberystwyth wedi dioddef yn arw o’r haint – “the majority of cases being of a mild character”. Yn unol â math ledaeniad, gwelwyd yr awdurdodau yn mynd ati i gyflwyno amryw o fesurau i fynd i’r afael ar haint – ac yn benodol o Ddydd Mercher, Hydref 30ain 1918, caewyd pob ysgol leol – penderfyniad a fyddai’n parhau tan ddechrau Ionawr 1919.

Gyfochr â’r penderfyniad i gau’r ysgolion, cymeradwyid y cynnig isod gan y Cyngor, a fyddai yn ei dro yn cael gryn ddylanwad ar amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau’r dref:

“That as preventive against influenza all meeting and entertainments within the 2 boroughs which could possibly be dispensed with, should be postponed or abandoned until further notice.”

Yn benodol, gwelwyd y penderfyniad uchod yn cael effaith nodedig ar wasanaethau crefyddol yn y dref – gyda’r Annibynwyr yn gohirio eu gwasanaethau mewn ymateb i’r cyhoeddiad. Wythnos yn ddiweddarach, yn unol â gorchymyn y Cyngor Tref, gwelwyd Methodistiaid Calfinaidd Gorllewin Cymru yn gohirio cyfarfod a oedd bod cael ei gynnal yn y dref y wythnos honno. Gwelwyd hefyd amryw o ddigwyddiadau pellach o bwys yn cael eu hoedi – gan gynnwys seremoni penodi Maer y dref yn Eglwys San Mihangel.

Fodd bynnag, ni fyddai bawb mor gaeth i ganllawiau’r Cyngor Tref – gyda gwasanaethau lleol y Methodistiaid yn parhau – gan gynnwys sawl cwrdd diolchgarwch yn y dref.

Daeth ymateb y Cyngor Tref i’r inffliwensa hefyd i ddylanwadu’n sylweddol ar agweddau eraill o’r dref. Caewyd sinema’r dref am wythnos, gan ail-agor ar yr 8fed o Dachwedd 1918. Nodwyd yn rhifyn 8fed o Dachwedd 1918 y Cambrian News:

it has been thoroughly disinfected and distempered and new ventilators installed. To comply with the restrictions of the L.G.B one performance nightly will be given at 7pm until further notice. To-day the feature is ‘Her Country’s Call’.

Gyfochr a’r penderfyniad i gau’r sinema, yn wythnosau cyntaf mis Tachwedd 1918 byddai’r Coleg hefyd yn cau am gyfnod, ynghyd â gwersi nos yn cael eu gohirio, a’r Ysbyty Croes Coch lleol yn cyfyngu’n sylweddol ar ymweliadau i’r Ysbyty. Ysgrifennodd Dr T.D Harries (y swyddog meddygol lleol) bamffled i drigolion y dref er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r haint, a’r camau i’w hosgoi.

Serch ymateb ac ymdrechion cadarn yr awdurdodau lleol i fynd i’r afael â lledaeniad yr haint farwol hon gychwyn Tachwedd 1918, yn fuan byddai bygythiad y ffliw yn cael ei gysgodi gan ddigwyddiad llawer fwy arwyddocaol – cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf. Croesawyd y cadoediad ar Dachwedd 11eg 1918 gan ryddhad a dathliadau mewn cymunedau ar draws Prydain – gan gynnwys yma yn Aberystwyth; noda’r Cambrian News:

It is over! Three short words but so full of meaning. The hardship, the sorrow, and, above all, the soul-eating anxiety. All over.

People could hardly believe it and were hesitant to rejoice. The sorrows of four years could not be thrown aside in a minute. But the children, as usual, showed the way. They knew not the sorrow, but they realised the occasion to rejoice. And they did it in a right royal manner.

The news came to Aberystwyth about half-past ten. By eleven the street had been transformed. Flag and bunting appeared with magic quickness. Every house, shop and office became gay with colours. Never was the Union Jack hoisted so proudly.

The principal streets were soon thronged with people – people who smiled and shed tears at the same time. Few homes have been untouched by the war. There are thousands of gallant men and boys to return, but there are many who have found graves in foreign lands. And the news re-opened many old wounds that will never heal.

Still, the rejoicing was great. The children saw to that. Land of boys paraded the streets, drumming on every conceivable thing that would make a noise. Blasts of horns came from one direction, the crash of detonators from another. It was an occasion for noise after years of sad silence.

Law yn llaw gyda’r dathlu a’r gorfoledd torfol, cynhaliwyd amryw o wasanaethau diolchgarwch yng Nghapeli ac Eglwysi’r dref.

Mewn rhai dinasoedd megis Manceinion, awgrymai haneswyr i ddathliadau’r cadoediad fwydo lledaeniad ehangach o Ffliw Sbaen – gan gyfrannu tuag at gyfraddau llawer uwch o achosion a marwolaethau erbyn diwedd fis Tachwedd 1918. Yn achos penodol Aberystwyth, o’r papurau newydd yn unig, mae’n anodd dadansoddi’r union effaith gafodd y dathliadau ar ledaeniad Ffliw Sbaen yn y dref. Serch hynny, mae hi yn gwbl glir i’r iwfforia a’r dathlu cymunedol ddaeth yn sgil y cadoediad wrthwynebu’n sylweddol gyda’r ymdrechion a brofwyd yn ystod y wythnosau blaenorol i fynd i’r afael â’r inffliwensa marwol drwy gamau megis cwtogi cyfarfodydd a chymdeithasu yn y dref.

Yn wir, gwta wythnos wedi’r cadoediad, noda rifyn 22ain o Dachwedd o’r Cambrian News – “The epidemic shows no abatement and business premises have been closed owing to shortage of staff. Whole households are laid up and some very pathetic cases have come to light.” Erbyn cychwyn mis Rhagfyr 1918, er enciliad mewn amryw o drefi cyfagos – gan gynnwys yn Llanbedr Pont Steffan – parhau bu cysgod oeraidd Ffliw Sbaen yn Aberystwyth – gydag achosion o’r haint, a’i effaith ar y dref yn amlwg ym mhapurau newydd y cyfnod; nodwyd yn y Cambrian News –

The influenza epidemic shows no signs of abating. On the contrary, it seems to gain in virulence, and disquieting reports from various districts.

In Aberystwyth, notwithstanding the drastic measures taken to prevent its spread, there are numerous serious cases. The College has been closed, several students among the victims, one having died. The is no prospect of the schools being reopened and we understand that representations are to be made to close the cinemas and Sunday Schools. 

Gydag ymdrechion y Cyngor Tref yn parhau i drechu’r haint drwy gamau megis cau’r ysgolion, llyfrgelloedd a gwasanaethau crefyddol, ceir adroddiad diddorol o rifyn 6ed o Ragfyr 1918 o’r Cambrian News am gam eithafol gan yr awdurdod lleol i godi ymwybyddiaeth ymysg trigolion y dref o’r mesurau hyn:

On Saturday evening the bellman went round the town advising, on the authority of the Medical Officer of Health that inhabitants not to attend churches and chapels and places of entertainment.

Serch fath ymdrechion tanbaid gan yr awdurdodau lleol, daeth yr erthygl i ben gyda’r frawddeg – “The advice does not appear to have been taken.” Mae’n ddiddorol iawn nodi mae nid ynysig oedd fath anufudd-dod tuag at ymdrechion yr awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r ffliw – ac yn fwyfwy erbyn Rhagfyr 1918 gellir synhwyro rhwystredigaeth gyhoeddus tuag at ymdrechion Dr T.D. Harries ar ran y Cyngor Tref i herio lledaeniad yr inffliwnesa.

Amlygwyd yr anghydfod cynyddol yma mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref a gynhaliwyd ar y 9fed o Ragfyr 1918. Yn benodol, derbyniodd y Cyngor lythyr gan y ‘Free Church Council’ yn nodi eu dicter ynghylch penderfyniad yr awdurdod lleol i anfon crïwr o amgylch y dref y Sadwrn cynt, yn annog trigolion i aros adref. Nododd y llythyr bod Dr T.D. Harries wedi ymddwyn mewn modd “discourteous” tua’r Eglwys. O gofnodion y Cambrian News, mae’n debyg i’r honiad hyn yn erbyn Dr Harries sbarduno ymateb tanllyd ganddo, a’i rwystredigaeth yn erbyn cyhuddiad yr Eglwys yn glir –

“Dr Harries said he was pleased the matter had been brought to the notice of the Council, because it showed that he had done his duty. The Council to prevent the spread of influenza in the town had given him a free hand; and in the matter referred to he had not done more than his duty; because it was understood that orders were to be given to close churches, chapels and cinemas, if that was found necessary. He resented the suggestion that he had acted in a discourteous manner towards the church; it was the last thing he would do; but he could not refrain from expressing indignation at the action of the Free Church Council in the circumstances. It was his duty to do his best to prevent the spread of influenza in the town; and in his opinion it was against common sense – it was criminal – to keep open any places of worship or entertainment at present.

He did not care whether he was considered discourteous or not if he did his duty. But the protest came from the very men he thought would have helped him in the cause of humanity, in the saving of lives of human beings.”

Yn benodol, ceir crebwyll gan Dr Harries i gyngerdd diweddar a gynhaliwyd yn y dref, gan ddadlau bod 120 o achosion o Ffliw Sbaen wedi ei gysylltu i fath ddigwyddiad – “Some of the victims were in their graves and could not tell the tale.”

Mae hi werth nodi mae nid yn unig yr Eglwys fynegodd rhwystredigaeth tuag at ymdrechion yr awdurdod lleol i atal lledaeniad Ffliw Sbaen – gyda’r sinema leol hefyd yn nodi anghydfod. Yn benodol, ysgrifennodd perchennog y sinema, Mr A. Cheetham, i’r Cyngor Tref yn galw am gefnogaeth ariannol – ac yn benodol “stating that he will expect the Corporation as a matter of equity, to allow him as a rebate from the next payment of rent his out-of-pocket expenses”. Gwrthododd y Cyngor Tref ystyried cais Mr Cheetham.

Er i achosion a marwolaethau o’r ffliw yn y dref encilio erbyn Nadolig 1918, a’r ysgolion ail-agor erbyn dechrau Ionawr 1919, bu raid i Aberystwyth aros tan ganol Ionawr i bla Ffliw Sbaen ddiflannu o’r dref. Cyhoeddwyd y newyddion am derfyn y ffliw gan Dr Harries yng nghyfarfod y Cyngor Tref y 13eg o Ionawr 1919 – gyda’r newyddion yn cael ei gyfarch gan floeddion o ‘hear hear’ gan y cynghorwyr. Fodd bynnag, amlygodd Dr Harries ei chwerwder ynghylch ymateb rhai carfanau o’r dref i’r pandemig (“Certain parties did not do as they ought to have done”) – gan rybuddio am yr angen i baratoi am fygythiad fath her eto.

Ar draws Cymru bu farw gwta 10,000 o bobl o Ffliw Sbaen – ac mae’n amlwg o’r adroddiadau uchod na fu i dref Aberystwyth ddianc yn llwyr o ddicter yr haint. Mae’r uchod o gofnodion papurau newydd y cyfnod yn cynnig darlun hynod ddiddorol o gamau awdurdodau’r cyfnod wrth geisio mynd i’r afael a’r haint farwol hon – yn ogystal â’r amheuaeth ac anghydfod cyhoeddus a ganlynodd fath ymdrechion.

Heddiw, dros ganrif yn ddiweddarach, mae nifer fawr o’r camau cydwybodol hyn – o gau’r ysgolion, i ohirio gwasanaethau – yn themâu cyfarwydd iawn i ninnau fel trigolion y dref.

 

Gyda chydnabyddiaeth i Papurau Newydd Cymru am y ffynonellau.