Mae’r uchafbwyntiau ar gael ar wefan Sgorio: http://www.s4c.cymru/sgorio/gem/aberystwyth-metcaerdydd-7/
Ar brynhawn braf a chynnes yng Nghoedlan y Parc, chwaraeodd Aberystwyth ei gêm gystadleuol gyntaf yn nhymor 2020/21. Roedd Coedlan y Parc bron yn wag ond roedd ambell gefnogwr brwd wedi manteisio ar y cyfle i wylio’r gêm dros y wal!
Bu’r ddau dîm yn eithaf cyfartal am y 10 munud cyntaf. Roedd Aber yn chwarae pêl-droed positif ac yn pasio’n dda. A dweud y gwir roedd y bêl-droed bron cystal â’r tywydd!
Newidiodd cydbwysedd y gêm ar ôl 13 munud. Rhif 8 newydd Aber (Jamie Veale o Ferthyr gynt) yn chwarae pas berffaith i hollti amddiffyn Met Caerdydd. Gyda’r bêl yn crymanu’n berffaith oddi ar ochr allan ei droed dde o gwmpas yr amddiffynnwr, cymerodd Jonathan Evans (wedi dychwelyd i Aber o Benrhyn-coch) y bêl heb oedi’i gam. Brasgamodd i mewn i’r cwrt cosbi lawr yr ochr dde. Torrodd mewn heibio’r cefnwr a tharodd y bêl yn galed i gornel uchaf y rhwyd wrth y postyn agosaf.
Roedd rhaid aros tua hanner awr am fwy o gyfleon gwerth chweil. Tarodd Charlie Corsby y bêl yn galed o ochr y cwrt cosbi i’r Met. Daeth Alex Pennock (myfyriwr yn y brifysgol) i’r adwy i Aber wrth iddo ymestyn ac arbed y bêl rhag mynd mewn i gornel dde’r rhwyd.
Daeth cyfle gwych i’r tîm cartref munud cyn diwedd yr hanner. Jamie Veale yn crymanu’r bêl dros y wal o gic-rydd ond yn cael ei arbed yn wych gan Chris Willis wrth iddo wthio’r bêl yn erbyn y trawsbren.
Mae’n rhaid bod y ‘team talk’ hanner amser wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r Met. Dechreuodd y tîm o’r brifddinas bwyso fwyfwy ar Aber. Heb syndod i neb, sgoriodd y Met bron i ddeng munud ar ôl yr awr. Daeth croesiad mewn i’r cwrt, ond wrth i Pennock geisio dal y bêl adlamodd oddi arno ac yn syth i Eliot Evans o’r Met. Pasiodd Evans y bêl i mewn i’r rhwyd.
Dim ond 5 munud ar ôl i’r Met ddod yn gyfartal, sgoriodd Aber i fynd ar y blaen unwaith eto. Derbyniodd Rhys Davies bas oddi wrth Steff Davies a thaniodd y bêl yn isel i gornel bellaf y rhwyd, 2-1.
Gyda’r munudau yn llithro heibio roedd Aber yn amddiffyn eu mantais er mwyn ceisio sicrhau’r tri phwynt. Ond gyda llai na deng munud i fynd torrwyd calonnau Aber gan Olly Hulbert. Methodd Aber glirio’r bêl o dafliad hir ar ôl 83 munud ac fe darodd Hulbert y bêl i’r rhwyd wrth iddo gwympo i’r llawr. Cyn pen tair munud daeth trydedd gôl Met ac ail gôl Hulbert. Daeth tafliad hir arall i mewn i’r cwrt a Hulbert yn taro’r bêl yn erbyn y postyn cyn iddo rolio dros y llinell.
Perfformiad addawol ar y cyfan gan dîm ar ei newydd wedd. Cafodd nifer o’r chwaraewyr newydd gemau da ac yn arbennig Jamie Veale.
Rwy’n siŵr fod rheolwr Aber, Gavin Allen, a’r tîm cyfan yn siomedig i ildio’r ddwy gôl hwyr o dafliad hir. Ond prin yw’r amser i weithio i wella’r amddiffyn cyn iddynt chwarae oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont nos Fawrth ac yna ar Goedlan y Parc yn erbyn y newydd-ddyfodiaid Fflint ar y nos Wener.