2020
Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un afreal, a rhwng yr holl newid cyfyngiadau, haenau a helynt, mae’n anodd cofio beth ar y ddaear ddigwyddodd pryd. Mae rhai heb fentro drwy’r drws ers mis Mawrth, tra mae eraill wedi gorfod gweithio bron bob dydd, a hynny dan amgylchiadau anodd tu hwnt. Diolch fyth am y bobl hynny; mae ein dyled fel cymdeithas yn fawr iddynt oll.
Gofynnwyd i mi rannu rhai lluniau o’r flwyddyn gyda darllenwyr gwefan BroAber, felly dyma fymryn bach o flas darluniadol o’r flwyddyn trwy lygad fy lens i.
Ionawr
Mae’r flwyddyn newydd yn aml yn cael ei geni mewn storm, a doedd eleni’n ddim gwahanol, ac mae dwy storm ar gof a chadw gen i.
Ond yr hyn y byddaf yn ei gofio fwyaf fydd un noson anhygoel o braf ar y Prom, pryd cafwyd un o’r machludoedd mwyaf arallfydol a welais i erioed. Roedd Marian a finnau wedi dod i lawr i’r dre i fynd am dro ac i weld y drudwyod, ond dyma a aeth â’n bryd.
Chwefror
Protest i ddangos cefnogaeth i’r Undeb Ewropeaidd ar y Prom, ac wrth gwrs, gan mai yn Aberystwyth ydyn ni – storm arall.
Storm Ciara
Mawrth
Yn ystod mis Mawrth fe ddaeth hi’n amlwg bod yr haint wedi cyrraedd, ac roedd teimlad cynyddol o bryder yn ymledu. Ar y pryd, er y pryderon, ni wyddwn i sicrwydd mai hwn fyddai’r mis olaf o gyflawni gwaith oedd yn ymwneud â phobl.
Dyma lansio cyfres o lyfrau iechyd meddwl ‘Darllen yn Well’ yn y Venue yn Llandudno, dan adain y Cyngor Llyfrau. Roeddwn wedi prynu troli newydd er mwyn hwyluso’r gwaith o symud goleuadau ac offer trwsgl. Dyma unig ‘outing’ y troli druan, sydd wedi bod yn casglu llwch yn y garej byth ers hynny.
Cyn pen dim, roedd tipyn o banig, a llawer o silffoedd Tesco’r dre yn wag, ac adeiladau cyhoeddus ynghau
Ebrill a Mai
Oherwydd fy mod i yn y categori uchaf o ran risg clinigol, roedd yn rhaid i mi ‘gysgodi’ (shielding) yn ystod misoedd Ebrill a Mai – rhai o fy misoedd mwya prysur o ran gwaith fel arfer. Doedd dim amdani ond aros yn yr ardd neu edrych ar y byd drwy’r ffenest! Roedd tynnu lluniau ‘agos’ (macro) yn teimlo’n addas ar y pryd, a rywsut yn adlewyrchu’r byd bach caeth yr oeddwn ynddo. O leiaf roedd hi’n dywydd braf.
Fe ges i gais i greu cyfres o luniau ar gyfer llyfr o storïau byrion gan Sian Northey ar y thema ‘cylchoedd’. A dweud y lleiaf, doedd hyn ddim yn hawdd a finnau’n sownd yn y tŷ – ond drwy ddefnyddio lluniau o’m harchif, a rhywfaint o ddyfeisgarwch ar fwrdd y gegin, fe lwyddais rywsut! Dyma’r llun olaf – ‘sbectol John Lennon’. Doedd gen i ddim sbectol gron, ac roedd rhaid prynu un dros y we i gwblhau’r llun – eironig iawn o ystyried cynnwys y stori – ewch ati i ddarllen y llyfr – Cylchoedd am esboniad ?
Mehefin
Dyna ryddhad – gyda llacio ychydig ar reolau’r cyfnod cysgodi, a Marian a finnau’n cael mynd am dro i’r dre a cherdded y Prom, a synnu gweld bod ‘coedwig’ wedi tyfu ar y pier! Profwyd rhyw don o lawenydd a rhyddhad y diwrnod hwnnw. Gwaetha’r modd, drennydd fe ddaeth diwedd ar y tywydd braf.
Gorffennaf
Tywydd diflas ar y cyfan, ond ambell daith gerdded leol braf, taith car emosiynol i gwrdd â’n teulu agos yn hyfrydwch yr Ardd Fotaneg a’r ganolfan adarydda – lle delfrydol ar y pryd i gwrdd yn saff ond gyda ‘phellter cymdeithasol’ yn y glaw!
Blodyn yn y parth ‘Awstralaidd’ yn yr Ardd Fotaneg.
Cyw Tylluan Lwyd yn y ganolfan adarydda.
Awst
Dyma gyfle i deithio i greu lluniau ar gyfer llyfr sydd i fod i weld golau dydd y flwyddyn nesaf. Aethom ar sawl siwrne undydd i leoliadau mymryn yn ddiarffordd a di-bobl. Roedd y tywydd braidd yn chwit-chwat, ond roedd yn rhaid mentro mynd er mwyn y gwaith. Ymhen dim roeddwn yn arbenigwr ar baratoi picnics a balansio cwpan fflasg ar dashfwrdd car.
Y Lôn Goed
Creyr Glas ym Mynydd Bodafon
Medi
Roedd y tywydd yn braf ym mis Medi, ac ansawdd glir yr awyr yn berffaith ar gyfer tynnu rhagor o luniau ar gyfer y gyfrol.
Yn dychwelyd o siwrne waith, dyma weld yn y drych yr olygfa hynod yma o Bont y Bermo. Doedd dim amdani ond troi yn ôl a gosod y camera ar ben wal er mwyn dal yr olyfga hyfryd.
Cwmorthin, uwchlaw Tanygrisiau. Dyma’r tro cyntaf i ni fod yno, ac roedd y profiad yn chwerw-felys o feddwl am Merêd – gan gofio mai dyma oedd ei ‘afallon’ gwreiddiol.
Mae hiwmor ym mhobman, er gwaethaf popeth, a phawb eisiau diolch i’r gwasanaethau iechyd am eu gwaith arwrol. Roedd hwn yn y lle mwya anghysbell ym mherfeddion pellaf Powys.
Yn nes adref, dyma Lynnoedd Teifi, a lliw’r machlud yn llonni’r lle.
Hydref
Rwyf wedi ceisio cofnodi hynt a helynt wal ‘Cofiwch Dryweryn’ dros nifer o flynyddoedd. Gwaetha’r modd, doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd am y gwaith adfer, neu fe fyddwn wedi ceisio’i gofnodi. Dyma esblygiad diweddaraf y safle, y diwrnod wedi cwblhau’r murlun.
Tachwedd
Ar daith i gyfnewid arnrhegion Nadolig yn ‘no man’s land’ y Bala, dyma gipio llun o Thomas Charles, y tu allan i Gapel Tegid. Roedd yn ddoeth iawn yn gwisgo mwgwd pwrpasol wrth gynnig Beibl i bawb o bobl y byd.
Yn ôl yn libart BroAber, roedd cyfres o fachludoedd hyfryd iawn. Beth gwell i’r enaid a’r iechyd meddwl na gweld yr awyr a’r môr yn cwrdd ar y traeth rhwng Ynys-las a’r Borth!
Does dim angen tywydd braf i ddod â rhywun at ei goed, a gwerthfawrogi mawredd natur a’r tirlun. Mae hyd yn oed glaw smwc bryniau Ceredigion yn gallu ein hatgoffa o’n lle yn y greadigaeth.
Bwlchystyllen a Chraig y Pistyll
Rhagfyr
Fe ddaeth Rhagfyr â’i gyfyngiadau a’i frecsit a’i lymder gaeafol, a phrin iawn oedd y cyfle – na’r awydd chwaith, i dynnu llun. Ond ar un diwrnod braf, cyn yr ail-gloi, dyma fanteisio ar y tywydd brochus i ddal y tonnau gwylltion ar draeth Cwmtudu – ar gyfer llyfr arall eto!
Blwyddyn Newydd Dda i bawb o ddarllenwyr BroAber a’r criw bach, hyfryd a diwyd o wirfoddolwyr a staff prosiect sy’n cadw’r ddarpariaeth i fynd mewn amgylchiadau wnaeth neb eu dychmygu pan gychwynnwyd ar y daith i greu’r wefan.