Os oes angen ansoddair i ddisgrifio Ffion Evans o Landre, “amryddawn” fyddai hynny. Dros y misoedd diwethaf mae wedi ennill gwregys ddu mewn karate a chyrraedd gradd wyth ar y corn tenor yn ogystal â chynrychioli Cymru yn y gamp o gyfeiriannu. Gwnaeth BroAber360 ddala lan am sgwrs gyda Ffion wrth iddi baratoi at lansio ei albwm fer cyntaf o gerddoriaeth sef “Ar Ben Fy Hun”.
SR: Ffion, rwyt ti’n amlwg yn ferch brysur iawn! Sut wyt ti’n gallu dod o hyd i’r amser i bopeth?
FfE: Fel mae fy mam yn fy atgoffa o hyd, “8 awr i gysgu, 8 awr i weithio, sy’n gadael 8 awr pob dydd i bopeth arall!” Rwy’n creu amserlen ac yn cadw ati, gan wneud popeth yn gymedrol a phob tro’n rhoi fy ngorau glas. Ond yn bwysicaf oll, mae gennai deulu a ffrindiau cefnogol iawn, sy’n gwneud popeth yn werth chweil.
SR: Mi fydd darllenwyr Y Tincer yn gyfarwydd gyda darllen am dy lwyddiannau ym meysydd eraill ond efallai heb sylweddoli dy fod di hefyd yn gantores-gyfansoddwraig. Ers pryd wyt ti wedi bod yn ysgrifennu caneuon dy hun?
FfE: Ymunais â’r band Bwca Hydref diwethaf yn canu a chwarae trwmped, a buodd y bois yn hynod o gefnogol ac yn fy annog i ganu ambell i gân wreiddiol yn ystod setiau Bwca ac yna i’w recordio. Dwi’n lwcus o’r cyfleoedd a’r profiadau rwyf wedi derbyn gan ystyried fy mod ond wedi bod yn ysgrifennu ac yn canu ers rhyw flwyddyn.
SR: Felly beth yw hanes yr EP yma? Ble wyt ti wedi bod yn recordio a sut brofiad oedd y broses recordio hynny?
FfE: Caneuon personol iawn sydd ar yr EP yma, sy’n adlewyrchu fy mhrofiadau dros y ddwy flynedd dwethaf, o fethiannau, salwch a chariad. Yn lwcus i mi, mae Rhydian Meilir, sy’n chwarae drymiau yn Bwca, yn gynhyrchydd dawnus a phrofiadol yn Stiwdio Bing. Cefais lawer o gefnogaeth ac arweiniaeth ganddo wrth recordio, gyda Steff ac Alun o Bwca yn cyfrannu eu doniau offerynnol ar ambell i drac. Diolch bois! Byse ni heb lwyddo hebddyn nhw. Yn ogystal, mae Bwca wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn recordio ein halbwm gyntaf yn Stiwdio Sain gydag Ifan ac Osian o Candelas a chwarae ar Noson Lawen. Am brofiadau!
SR: Pa fath o sŵn gallwn ni ddisgwyl? Oes unrhyw artistiaid wedi dy ysbrydoli di yn gerddorol?
FfE: Sŵn ‘folky-pop’ sydd i fy nghaneuon, wedi’u cyfeilio yn bennaf gan gitâr acwstig, sielo a phiano. Yn y gorffennol dwi wedi cael fy nghymharu i Florence and the Machine, efallai’n rhannol am y gwallt coch! Mae’r artistiaid eraill sydd wedi fy ysbrydoli yn cynnwys London Grammar ac Alys Williams.
SR: Yn Eisteddfod yr Urdd eleni mi wnest di gipio’r ail wobr yn Ysgoloriaeth Geraint George am gyfathrebu materion amgylcheddol gyda dy gân “Byd yn Dod i Ben”. Ife caneuon protest amgylcheddol yw’r caneuon eraill ar yr EP hefyd?
FfE: Does dim o’r caneuon eraill yn ganeuon protest amlwg ond dwi’n defnyddio delweddau amgylcheddol mewn sawl cân, megis yr haul, y môr a stormydd. Dwi’n cael fy ysbrydoli gan natur ac wedi dechrau gradd mewn Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
SR: O’r holl ganeuon ar yr EP, oes yna ffefryn? Neu pa un wyt ti’n gobeithio fydd yr “hit”?
FfE: Dwi’n teimlo’n gyfrifol am rannu neges ‘Byd yn Dod i Ben’ ac yn gobeithio iddi gychwyn sgyrsiau pwysig ynglŷn â’n hagwedd tuag at yr amgylchedd. ‘Na gyd dwi’n gobeithio am yw bod pobl yn medru uniaethu gyda a gwerthfawrogi negeseuon fy nghaneuon.
SR: Rhaid gofyn am y gwaith celf, sydd yn fwy blodeuog na’r Babell Flodau yn Sioe Talybont! Pwy sydd wedi creu’r gwaith yma?
FfE: Sara Lleucu, dylunydd talentog ac un o fy ffrindiau gorau, sy’n gyfrifol am greu’r gwaith celf flodeuog! Mae’n flaenoriaeth i mi rannu llwyddiant gyda’m teulu a ffrindiau, a rwy’n ddiolchgar am frwdfrydedd a pharodrwydd Sara i ddylunio darnau prydferth o waith ar gyfer fy ngherddoriaeth.
SR: Mae aderyn bach wedi dweud fod cwpl o gigs yn dod lan gyda ti i hyrwyddo’r EP gan gynnwys un yn y Brifddinas. Gwêd y cwbl wrtho ni!
FfE: Oes wir! Byddai’n perfformio yn Niwrnod Dinas yr Arcêd yng Nghaerdydd gan chwarae mewn tri o arcêds Caerdydd ar yr 16eg o Dachwedd. Dwi’n hynod o gyffrous i chwarae lawr ‘na achos dwi’n dwlu ar y siopau dillad “vintage” ac ati sydd i’w gael yno. Wedyn, ar y 5ed o Ragfyr byddai’n canu yn Ffair Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol nôl gartref yn Aberystwyth. Felly os ydych chi’n agos, dewch draw i wrando!
SR: Ac ar wahân i’r gigs yma, ble allwn ni ddod o hyd i dy gerddoriaeth?
FfE: Byddai’n mynd ambiti yn gwerthu CDs, gyda rhan o’r elw yn mynd tuag at apêl Llandre tuag at Eisteddfod Tregaron 2020. Gallwch hefyd ddod o hyd i fy ngherddoriaeth ar Spotify, Apple Music ayyb. A gallwch fy nilyn ar Instagram @ffionevanss am gyhoeddiadau gigs a cherddoriaeth newydd.
SR: Felly y tu hwnt i’r EP yma, beth yw dy gynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf?
FfE: Byddaf yn ymuno â bois Bwca yn Stiwdio Sain i orffen yr albwm fydd yn dod allan yn y Gwanwyn. Felly gwyliwch allan am hynny a dilynwch Bwca @bwcacymru ar y cyfryngau cymdeithasol. Dwi’n edrych mlaen dychwelyd i Aberystwyth i ddathlu’r Nadolig gyda theulu a ffrindiau, ond hefyd bydd raid i mi gofio adolygu ar gyfer arholiadau mis Ionawr!