Rhagor na choridorau…

Awdur cerdd yn datgelu ei hun

Rhodri Siôn
gan Rhodri Siôn

 

Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld y llun yma ar Facebook yn ddiweddar.
Dyma ychydig o’i hanes a’i gefndir…

I lawer o bobl ar hyd Cymru, mae dau beth yn dod i’r meddwl wrth glywed yr enw ‘Pantycelyn’. Un ydi’r emynydd enwog, a’r llall, efallai yn fwy cyfarwydd i’r genhedlaeth iau, ydi’r neuadd breswyl yn Aberystwyth. Mae neiniau a theidiau, rhieni a phlant wedi aros yn Neuadd Pantycelyn ac mae hi’n eicon o fywyd myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth. Dyma un o gadarnleoedd y Gymraeg i bobl ifanc ac mae wedi ysbrydoli cymaint o’n henwogion ni ac wedi bod yn un o seiliau’r diwylliant Cymraeg fel y mae o heddiw.

Ond fel mae’r rhan fwyaf sydd â chysylltiad â hi’n gwybod, mae hi bellach ar gau. Nid am byth, mae’n braf dweud, ond tra mae gwaith ar fynd i’w hadnewyddu hi i groesawu cenedlaethau o Gymry i’r Coleg ger y lli eto (rhaid i mi gytuno bod angen newid y paent brown erbyn heddiw!).

Blwyddyn a dreuliais i’n byw yno, o hydref 2013 tan haf 2014, ac mae’r flwyddyn honno’n gyfrifol i raddau helaeth am y math o berson ydw i heddiw. Mae hi’n rhan ohonof i a fyddwn i ddim yn newid fy mhrofiad i yno am y byd. Dyna fu’n ysbrydoliaeth i mi lunio cywydd am y Neuadd yn ystod y protestiadau roeddwn i’n rhan ohonynt yn ceisio atal ei chau’n derfynol. Ar y wal yn y llun uchod, mae cwpled clo’r cywydd. Dyna pa mor fawr oedd dylanwad y flwyddyn yn Panty arna’ i.

Daeth y cwpled i’r golwg ar ôl i un a oedd yn gweithio yn y Neuadd dynnu llun ohono ac ar ôl i rywun ei roi ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn pwy oedd y bardd. Wel, fi oedd hwnnw. Er hynny, nid fi oedd yr artist graffiti. Elin Tomos, oedd flwyddyn yn iau na mi, a ysgrifennodd y cwpled ar y wal wrth adael am y tro olaf cyn cloi’r drysau (am byth ar y pryd – neu o leiaf fel neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg). Mae’n debyg bod y neuadd wedi cael yr un effaith arni hi. Wn i ddim pam y bu’n rhaid i ni frwydro i warchod y peth mwyaf gwerthfawr oedd gan y Brifysgol i ddenu myfyrwyr Cymraeg i Aber, ond dyna a wnaethom ni ac mi welsant maes o law mai llais y myfyrwyr oedd yn iawn, a llais yr holl bobl eraill fu’n ein cefnogi.

Roedd o’n gyfnod cyffrous iawn i mi ar droad fy ugeiniau – cael gwneud safiad ac ymdeimlad o brotestiadau’r 60au’n perthyn i’r holl beth. Mi gofia’ i un peth ddywedodd Emyr Llew i’n hysbrydoli ni yn un o’r protestiadau – bod protestio i fod yn hwyl, ac nad oes dim yn gwneud i bobl feddwl eich bod chi am fod yno am byth yn fwy na chriw o bobl sy’n cael hwyl a ddim eisiau mynd adref! O hyn i gyd, mi dyfodd y cywydd yn naturiol iawn, heb lawer o waith meddwl. Mae’n rhaid bod yr ysbrydoliaeth oedd rhwng y waliau’n tynnu’r llinellau ohona’ i. Er y bydd hi’n go wahanol pan fydd yn agor ei drysau unwaith eto fel llety, dwi’n gobeithio ac yn eithaf siŵr y bydd hi’n dal i ysbrydoli pobl ifanc Cymru am genedlaethau eto.

Neuadd Pantycelyn

Yma’n hon mae ein mwynhad
Ac mewn cerrig mae’n cariad.
Rhagor na choridorau
Yw i ni – mae hi am hau
Hadau man a ddaw’n goed mwy,
O Sir Fôn i Sir Fynwy -
Nyni, yn gewri geirwon,
Yn ein hwyl yng nghalon hon,
Yn ei hadlais sefydlog –
Tarian yw i’n Tir Na nÔg.

Mi wn na fyddwn yn ‘fi’
Heb hynt a helynt Panty.

                                     Rhodri Siôn