Merched y Wawr Llanafan yn cael cyflwyniad i BroAber360

Aelodau Merched y Wawr Llanafan yn paratoi i gyfrannu at BroAber360 ar ôl cyflwyniad Dan

Angharad Morgan
gan Angharad Morgan

Ar nos Lun Tachwedd yr 11eg cafodd cangen Merched y Wawr gyflwyniad i weithgareddau BroAber360 gan Daniel. Tua hanner yr aelodau oedd yn ymwybodol o’r wefan, mi eglurodd Dan beth oedd pwrpas y wefan a sut mae’r fenter am gydweithio gyda Phapurau Bro’r ardal. Cafwyd cwis hwyl hefyd ond mi aeth pethau’n reit gystadleuol rhwng ambell aelod erbyn y diwedd!!

Hoffem fel cangen ddiolch yn fawr iawn i Dan am noson addysgiadol a hwyliog. Mae’r gangen a phentre Llanafan yn edrych ymlaen i gyfrannu ein newyddion a’n digwyddiadau i BroAber360!