Medal arian i Dic ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd

Rhedwr enwocaf Aberystwyth yn cipio medal arian gyda thîm Prydain yn Yr Eidal yn ddiweddar.

gan Rhedeg Aber

Dic Evans (ar ris rhif 2 yn y coch) ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd yn yr Eidal (llun: Marco Gulberti / Corsa in Montagna).

Dychwelodd y rhedwr adnabyddus o Aberystwyth, Dic Evans, o Bencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd yn yr Eidal yn ddiweddar gyda medal arian yn ei boced.

Mae Dic, sydd bellach yn ei 70au, wedi bod yn un o redwyr amlycaf a mwyaf llwyddiannus canolbarth Cymru ers dros hanner canrif ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain nifer fawr o weithiau mewn gwahanol ddisgyblaethau rhedeg. Roedd hefyd yn reolwr ar dîm Cymru ar gyfer ras fynydd enwocaf Cymru, Ras yr Wyddfa, yn ddiweddar.

Mae’r cyn brifathro Ysgol John Rhys ym Mhonterwyd yn dal yn redwr cryf ers ei ymddeoliad a’r dalent yma wedi arwain at y cyfrifoldeb rhyngwladol o redeg yn y bencampwriaeth yma yn Puglia dros benwythnos olaf mis Medi. Roedd Dic yn cynrychioli Prydain yn y categori dros 70 oed.

Roedd y cwrs mynyddig yn gofyn i redwyr ddringo cyfanswm o 330 medr dros bellter o 6.5 cilomedr heriol yn Gagliano del Capo.

Er bod Dic Evans wedi bod yn dioddef o anaf hirdymor, llwyddodd yn rhyfeddol i orffen yn yr wythfed safle yn y gystadleuaeth i ddynion dros 70, mewn amser ardderchog o 52:35 munud.

Roedd ei ganlyniad yn ddigon da i sicrhau medal arian wych i Dic a’r tîm Prydeinig, gyda thîm cryf Yr Eidal yn cipio’r brif wobr. James Patterson a Steve Herington oedd ei gyd-aelodau yn nhîm Prydain.

D’yw Dic ddim yn un i orffwys ar ei rwyfau. Bydd nawr yn troi ei sylw at gynrychioli Cymru yn Mhencampwriaeth Rhyngwladol Traws Gwlad Hŷn Prydain ac Iwerddon yn Aintree ar 16 Tachwedd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth hon am y tro cyntaf yn Wrecsam yn 1988 ac mae Dic wedi ei rhedeg bob tro. Bydd yn cynrychioli Cymru am y degfed tro ar hugain –  go brin fod llawer yn gallu hawlio record debyg.

Mae Dic hefyd yn brysur yn trefnu ei ras flynyddol ym Mhontarfynach, ‘Sialens y Barcud Coch’. Mae manylion ras blwyddyn nesaf newydd eu cyhoeddi a’r dyddiad, 9 Medi 2020, wedi’i gadarnhau. Bydd y rasys llwybr yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd gan gynnwys rasys ieuenctid cystadleuol ar gyfer amryw oedrannau iau, yn ogystal â 10k a Hanner Marathon sydd ar un o gyrsiau mwyaf heriol, ond prydfertha Cymru.

Mae elw ‘Sialens y Barcud Coch’ yn cael ei ddosbarthu i achosion da lleol yn flynyddol. Mae modd gweld mwy o wybodaeth ar wefan y ras.