Gig Lansio yn y Gen

Ffion Evans yn lansio ei EP cyntaf “Ar Ben Fy Hun” mewn gig yn y Gen

Bwca (@bwcacymru)
gan Bwca (@bwcacymru)
Iestyn Hughes

Nos Iau diwethaf, yng nghanol holl fwrlwm Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru fe gafwyd gig hwyliog i lansio EP y gantores-gyfansoddwraig o Landre, Ffion Evans sef “Ar Ben Fy Hun”.

Fe wnaeth Ffion berfformio holl ganeuon yr EP gan ddwyn gwrandawiad y gynulleidfa barchus gyda’i llais tyner ac unigryw. Bu nifer hefyd yn prynu copi o’r EP sydd yn codi arian tuag at Apêl Llandre ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2020.

Yn cyfeilio iddi roedd Steff Rees ar y gitâr acwstig a’r ukulele, Iwan Hughes ar y cajon a’r offerynnau taro a Kris Jones ar y gitâr acwstig. Steff hefyd fel sefydlydd Recordiau Bwca oedd yn llywio’r gig ac yn cyflwyno’r caneuon.

Rhwng caneuon Ffion cafwyd saith cân gan Bwca sef y band o Aberystwyth y mae Ffion yn chwarae trwmped a chanu ynddo. Gan fachu ar y cyfle o chwarae gig yn y Gen fe wnaethon nhw rhoi gwên ar ambell wyneb gyda’u cân blŵs chwareus “Lan yn y Gen”.

Fe ddylai darllenwyr BroAber360 ymfalchïo a chefnogi ar bob cyfle y perfformwyr Cymraeg ifanc a safonol yma sydd gyda ni ar y stepen drws sef Ffion Evans a Bwca.

Os am brynu copi o EP Ffion Evans e-bostiwch bwcacymru@outlook.com.

Llun: Iestyn Hughes