gan
Iestyn Hughes
Lansiwyd y gyfrol Byd Gwynn, sef cofiant i’r bardd a’r llenor T Gwynn Jones, yn y Drwm, y Llyfrgell Genedlaethol, nos Wener, 13 Rhagfyr, gyda Robert Rhys yn holi’r awdur, Alan Llwyd.
Fe fu T. Gwynn Jones yn byw ac yn gweithio yn ardal Aberystwyth am flynyddoedd lawer. Bu’n aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol cyn cael ei benodi’n ddarlithydd ac yn Athro yn y Gymraeg yng ngholeg prifysgol Aberystwyth.
Deg mlynedd a thrigain ar ôl marw’r llenor amryddawn ac arloesol hwn, mae’r gyfrol yn cyflwyno portread newydd a gwahanol o fywyd a gwaith T Gwynn Jones wrth i’r awdur fynd ati i ailystyried ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.
Cyhoeddir y gyfrol gan Gyhoeddiadau Barddas, a’i phris yw £19.95.