Fel un sydd wrth ei bodd yn ‘steddfota, pa le gwell i dreulio dydd Sadwrn diflas ym mis Tachwedd nag yn Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru?! Yno y bues innau, ynghyd â degau o Gardis brwd, yn cystadlu, cefnogi ac yn mwynhau’r arlwy amrywiol.
Tro Clwyd oedd hi eleni i groesawu’r Eisteddfod a gynhaliwyd yn theatr William Aston yn Wrecsam. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gystadlu mewn tair cystadleuaeth eleni; dwy yn unigol sef yr Unawd Offerynnol a’r Llefaru Unigol a hefyd yn rhan o barti llefaru CFfI Lledrod.
Gyda’r Unawd Offerynnol yn un o gystadlaethau cyntaf y diwrnod, rhaid oedd codi cyn cŵn caer! Ac er bod ymarfer, pacio’r delyn, tiwnio a gyrru i Wrecsam yn faich mor fore, dyma’r esgus perffaith i wylio holl gystadlu’r diwrnod yn fyw – a chefnogi Ceredigion wrth gwrs!
Dyma’r diwrnod perffaith o adloniant; o’r sgetshys digri i’r monologau dwys i’r canu iach. Eisin ar y gacen oedd ennill dychwelyd gyda thri cherdyn coch a thlysau pren unigryw. Gyda CFfI Lledrod yn glwb bach sydd heb gyrraedd y llwyfan cenedlaethol ers blynyddoedd, bydd ennill y parti llefaru yn destun sgwrs am fisoedd i ddod! Rhaid llongyfarch holl aelodau eraill o’r Sir a gipiodd wobrau yn enwedig i Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog am hawlio cadair hardd y ‘Steddfod.
A minnau’n blino ddiwedd prynhawn, trois am adref a gwylio gweddill y cystadlu ar S4C o glydwch y soffa. Trueni o’r mwyaf na chafodd Geraint Lloyd ddarlledu’n fyw ar Radio Cymru eleni. Gobeithio yn wir y bydd ef, sy’n Llywydd ar y mudiad yng Nghymru (ac yn un o Ledrod wrth gwrs!) yn dychwelyd y flwyddyn nesaf. Serch hynny, bu’n recordio pytiau o’r diwrnod i’w chwarae ar ei raglen nosweithiol, Y Shifft Hwyr, a diolch iddo am ei gefnogaeth.
A dyna ni, y Steddfod drosodd am flwyddyn arall! Isod mae holl lwyddiannau Ceredigion gan sicrhau i’n Sir ddod yn drydydd ar ddiwedd y dydd.
Adran Llwyfan:
Unawd Offerynnol – 1af Nest Jenkins, Lledrod
Monolog – 3ydd Alaw Mair Jones, Felinfach
Parti Llefaru – 1af Lledrod
Unawd 26 oed neu iau – 3ydd Heledd Besent, Mydroilyn
Meimio i Gerddoriaeth – 3ydd Llanwenog
Llefaru 26 oed neu iau – Nest Jenkins, Lledrod
Canu Emyn – 3ydd Lowri Elen Jones, Bro’r Dderi
Sgets – 1af Pontsian
Parti Deusain – 3ydd Llanwenog
Adran Gwaith Cartref: 1af
Cerdd (Cadair) – 1af Twm Ebbsworth, Llanwenog
Rhyddiaith (Goron) – 2il Twm Ebbsworth, Llanwenog
Celf a Chrefft – 1af Ella Evans, Felinfach
Cyst. Aelodau 21 oed neu iau – erthygl ar gyfer cylchgrawn CFfI – 2il Daniel Evans, Bro’r Dderi
Cyst. Aelodau 26 oed neu iau – araith ysgrifenedig – 1af Megan Lewis, Trisant
Limrig – 3ydd Endaf Griffiths, Pontsian
Llefarydd gorau’r Eisteddfod – Nest Jenkins, Lledrod
Unigolyn mwyaf addawol yr Eisteddfod – Nest Jenkins, Lledrod