![Criw cefnogwyr Ben Lake yn Ffair Nadolig Plaid Cymru](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2019/12/torf-y-morlan-640x396.jpeg?2v)
Criw cefnogwyr Ben Lake yn Ffair Nadolig Plaid Cymru
Daeth nifer fawr o bobl i Ganolfan y Morlan fore Sadwrn, 7 Rhagfyr, i ffair Nadolig canghennau Ceredigion o Blaid Cymru. Agorwyd y ffair gan y bytholwyrdd Dafydd Iwan, a chafwyd neges amserol o anogaeth ganddo. Braf hefyd oedd cael cefnogaeth Ben Lake, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn yr etholaeth, yng nghanol ei brysurdeb yn ymgyrchu ar hyd a lled y sir, yn ogystal ag Elin Jones, AC, Llywydd y Cynulliad.
![](https://broaber.360.cymru/ased/sites/6/2019/12/ffair-y-blaid-2019-04159-640x480.jpg)
Roedd amrywiaeth di-ben-draw o stondinau yn y neuadd – nifer ohonynt yn gwerthu crefftau lleol, gan roi cyfle i brynu ambell anrheg Nadolig a chefnogi busnesnau lleol yr un pryd. Owain Schiavone enillodd brif wobr y raffl ac roedd digon o gyfle i gymdeithasu dros baned a llond powlen o gawl blasus.