Dathliadau Nadolig Cymdeithas Lenyddol y Garn, Bow Street

Noson wych i ddathlu’r Nadolig gyda thalentau lleol

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Cymdeithas y Garn yn dathlu’r Nadolig

Roedd festri’r Garn yn llawn i’r ymylon nos Wener, 13 Rhagfyr, wrth i’r Gymdeithas Lenyddol ddathlu’r Nadolig. Alan Wynne Jones oedd yn gyfrifol am y trefniadau, a chafwyd noson o eitemau amrywiol, yn cynnwys darllen cerddi, cyflwyniad am hen gardiau Nadolig, a chip ar y Blygain Fawr yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Cyflwynodd y côr a’r parti dynion nifer o garolau cyfoes a chafwyd unawdau gan Bryn Roberts ac Arwel George. Roedd cryn dipyn o grafu pen wrth geisio cael yr atebion cywir i gwis heriol Gareth William Jones, a chafwyd cyfle i sgwrsio’n hamddenol dros baned ar ddiwedd y noson. Braf oedd gweld cynifer wedi mentro allan ar noson aeafol i gymdeithasu mewn awyrgylch gartrefol, gynnes ac aeth pawb adref wedi cael mwynhad arbennig o ddod at ei gilydd mewn ysbryd cyfeillgar ar drothwy’r Nadolig.

Mae’r Gymdeithas yn cwrdd unwaith y mis, ac mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno – bydd manylion y cyfarfodydd nesaf i’w gweld yn nyddiadur BroAber360.