Sul y Cofio ym Mhenrhyn-coch

Sul y Cofio ym Mhenrhyn-coch

William Howells
gan William Howells

Cyflwyno’r Torchau

Cynhaliwyd gwasanaeth Sul y Cofio Trefeurig o gwmpas y gofeb ar sgwâr Penrhyn-coch bore Sul 10 Tachwedd 2019.

Rhan o’r gynulleidfa a ddaeth ynghyd i gofio ar sgwâr Penrhyn-coch.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parchg Peter Thomas.

Y Parchg Peter Thomas

Cafwyd darlleniad gan Gwenan Price, aelod o Gyngor Cymuned Trefeurig. Y trwmpedwr oedd Siôn James.

Siôn James

 

Rhestr o’r milwyr o blwyf Trefeurig a laddwyd yn ystod y Rhyfel Mawr 1914–18.

Cafwyd dwy funud o dawelwch i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Cyflwynwyd torchau gan amryw o sefydliadau lleol gan gynnwys y Cyngor Cymuned, Eglwys S Ioan, cangen o’r Buffaloes, a’r Brownies.

Am fwy o wybodaeth am Ryfel 1914–18 a Gogledd Ceredigion gweler ffrwyth Prosiect ‘Cofio a Myfyrio’ dan nawdd capeli’r fro:

https://www.peoplescollection.wales/discover/query/cofio%20a%20myfyrio 

sef casgliad o dros 300 o eitemau gan gynnwys lluniau, dyddiaduron, cofebau, atgofion, a llawer mwy.