Breuddwydio yng Nghanolfan y Celfyddydau!

Prosiect rhwng Canolfan y Celfyddydau a phlant o Bangalore.

Nia Edwards-Behi
gan Nia Edwards-Behi
Grwp o blant o Gymru ac India yn sefyll gyda'u gwaith celf rangoli.

Grwp o blant o Gymru ac India yn sefyll gyda’u gwaith celf rangoli wedi creu ar y cyd.

Yn ystod mis Hydref 2019 am gyfnod o 10 niwrnod bu Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnal gweithrediad sylweddol ar y cyd rhwng bobl ifanc 13-18 oed o Bangalore, India; Ysgol Uwchradd Fitzalan, Caerdydd ac Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan.

Yn sgil cefnogaeth oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi cydweithio gyda’r tîm Dysgu Creadigol trwy’r celfyddydau, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Dream a Dream, mudiad elusennol yn Bangalore sy’n creu cyfleoedd trwy’r Celfyddydau i bobl ifanc o gefndiroedd llai ffodus oresgyn problemau a ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym.

‘Roedd yn bleser gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth groesawu 10 o bobl ifanc o Bangalore dros hanner tymor yr hydref am wythnos o weithdai a phrofiadau.

Dros y penwythnos cyntaf buont yn mwynhau creu llusernau gyda’r Small World Theatre, sy’n gweithio gyda chymunedau amryfal yng Nghymru a thramor i feithrin lles trwy gymryd rhan yn y celfyddydau. Eu bwriad yw dod â gweithgareddau celfyddydol i mewn i ganol y gymuned fel rhywbeth sy’n newid cymdeithas. Bu’r grŵp hefyd yn mwynhau sesiynau adrodd straeon a cherddoriaeth yng nghwmni’r perfformwyr lleol Peter Stevenson ac Ailsa Mair Hughes.

Hefyd fe gynhaliwyd gweithdai creu llusernau yn Ysgol Llannon, Ysgol Pontrhydfendigaid, y Ganolfan Gynnal Addysg yn Ysgol Penglais, yn ogystal â gweithdy cyhoeddus yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Bu Winding Snake, mudiad animeiddiad ac addysg gyfryngol elusennol o Gaerdydd, yn cynnal gweithdy Rangoli ffantastig i arddangos y Rangoli gydol yr wythnos yng nghyntedd Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau gan gyflwyno byd o liw, diwylliant a chyfeillgarwch.

Yn ystod yr wythnos yng Ngheredigion cafwyd llu o weithgareddau yn edrych ar ddiwylliant Cymreig ac Indiaidd mewn nifer fawr o ieithoedd a disgyblaethau. Bu’r gweithgareddau yn cynnwys gweithdai creu mewn ffelt gyda Ruth Packham a phrintio sgrîn gyda Becky Knight. Bu Sophie Hadaway, Pennaeth Rhanbarthol o Gyngor Celfyddydau Cymru, a Jeremy Turner, yn cynnal gweithdy sgiliau creadigol sy’n cydfynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Bu’r grŵp hefyd yn mwynhau ymweliad â digwyddiad Diwali yn neuadd gymunedol Bow Street, gan ymuno â thrigolion lleol i ddathlu gŵyl y golau.

Uchafbwynt yr wythnos oedd yr orymdaith lusernau ar Nos Fercher pryd y bu’r grŵp yn arddangos y llusernau y buont yn gweithio arnynt efo’i gilydd. ‘Roedd yr orymdaith lusernau yn gyfuniad o gelf, treftadaeth a diwylliant, gyda noson o adloniant yn dilyn yr orymdaith o gwmpas campws Penglais. Bu tiwtoriaid o’r Ganolfan yn rhoi gwersi dawnsio. Rhoddodd Alaw Griffiths wers mewn clocsio Cymreig a rhoddodd Kritika Bhardwaj wers mewn dawns Bollywood. Wedyn cafwyd perfformiadau gan y disgyblion o Bangalore, a dawns Twmpath draddodiadol a fwynhawyd gan bawb!  Cafodd gwylwyr a chyfranogwyr wledd weledol o olau ac addurniad, diwylliant a chelf.

Mae’r ymweliad hwn gan bobl ifanc o Bangalore yn un o nifer o uchafbwyntiau tymor o weithgarwch Indiaidd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sy’n cynnwys yr arddangosfa Edeifion yn Oriel 1 sy’n dathlu gwaith artistiaid Cymreig ac Indiaidd ac yn tanlinellu ymrwymiad y Ganolfan at waith a chysylltiadau rhyngwladol ac at gydweithio efo gwahanol gymunedau ar draws canolbarth Cymru, gan ymgorffori cred Cyngor Celfyddydau Cymru y dylai celf fod ‘o fudd i bawb’.

Dywedodd Amanda Trubshaw, Rheolwraig Ddysgu Creadigol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, “Mae wedi bod yn fraint i wireddu’r prosiect hwn. Mae egni, brwdfrydedd a chreadigedd y bobl ifanc hyn yn anhygoel.  Mae llawer ohonynt wedi dweud bod y cyfle hwn wedi newid eu bywydau, ond mae eu presenodeb yma yn newid ein bywydau ni hefyd.”

Dywedodd Revanna Marilinga, Rheolwraig Raglen Sgiliau Bywyd Ar Ôl Ysgol  Dream a Dream, “’Roedd yn daith anhygoel i’n pobl ifanc ni, yn dod o gefndiroedd difreintiedig i deithio i Gymru a chymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gelfyddydol a diwylliannol. Maent wedi bod yn cael profiadau newydd sbon trwy gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau a gweithdai. Maent wedi gwneud ffrindiau newydd am oes. Maent yn dysgu am ddiwylliant ac iaith Cymru, ac am greadigedd a chydweithio yn ogystal â dysgu sgiliau bywyd. Dyma’r cyfle perffaith i’n pobl ifanc oresgyn anawsterau a ffynnu yn eu bywydau.  ‘Rwy’n hynod ddiolchgar i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chyngor Celfyddydau Cymru am roi cyfle mor wych i’n pobl ifanc – bydd y prosiect yn newid eu bywydau.”

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwraig Gyfranogaeth Gelfyddydol Cyngor Celfyddyau Cymru,  “’Rwyf wrth fy modd bod sgwrs a ddechreuwyd yn Bangalore ddwy flynedd yn ôl am greadigedd wedi arwain at y digwyddiad rhyfeddol hwn, sydd wedi dod â phobl ifanc  o India, Caerdydd a Cheredigion at ei gilydd i ystyried eu hymatebion creadigol i beth sy’n digwydd yn ein byd heddiw.”