Tipyn o Sioe!

Arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

1718638237890

I nodi 120 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Sioe Frenhinol Cymru, mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos lluniau i ddathlu’r ‘Sioe Fawr’. Bydd yr arddangosfa ar agor ym mis Gorffennaf ac Awst 2024.

Mae’r ffotograffau yn yr arddangosfa yn adlewyrchu sut mae’r Sioe ac amaethyddiaeth wedi esblygu dros y degawdau. Cynhaliwyd y Sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904. Aeth i leoliadau amrywiol hyd at 1963, pan gafodd gartref parhaol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt.

Gwaith dau ffotograffydd dogfennol yw’r mwyafrif ohonynt, Geoff Charles ac Arvid Parry-Jones. Mae’r ddau wedi dogfennu Sioe Frenhinol Cymru yn ddiwyd trwy ddelweddau deniadol a dadlennol.

Ffotograffwyr eraill sy’n ymddangos yw Haydn Denman sydd wedi dogfennu ei daith ffotograffig ar hyd yr A470 drwy Lanelwedd, a Bruce Cardwell sydd wedi cyhoeddi llyfr diweddar yn cynnwys delweddau cyfoes o’r Sioe.

Dywedodd Dr. Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r Sioe Fawr yn un o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru gan roi llwyfan rhyngwladol i amaeth ein cenedl. Diolch i’r Gymdeithas am ddewis cyhoeddi’r sioe yma a’n pleser ni yw curadu’r arddangosfa hon o ffotograffau o’n casgliad sy’n dogfennu hanes y Sioe dros y blynyddoedd. Gobeithio y daw pobl yma o bob cwr i’w gweld.

Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:

“Rydym wedi adeiladu perthynas agos iawn gyda’r Llyfrgell dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n diolch yn fawr iddyn nhw am baratoi’r arddangosfa arbennig hon sy’n cofnodi datblygiad y sioe, a’i chyfraniad i gefn gwlad Cymru. Hefyd, roedd cael y cyfle i gynnal lansiad swyddogol Sioe 2024 yn y Llyfrgell yn ddigwyddiad hanesyddol, gan ddathlu man geni’r sioe yn Aberystwyth nôl yn 1904.”