Cofio Dai

Y Lolfa yn lansio cyfrol i gofio Dai Llanilar

448729094_982970223670760
442500125_988149143152868

Nos Fercher nesaf, 10fed o Orffennaf am 7 o’r gloch, bydd lansiad swyddogol Cofio Dai yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth.

John Davies Cwmbetws fydd yn llywio’r noson gydag adloniant gan Aled Wyn Davies, Nest Jenkins, Linda Griffiths, Ifan Tregaron a mwy!

Gweinir cawl gyda bara a chaws a phice ar y maen a bydd croeso mawr i bawb.

Mae’r Lolfa yn cyhoeddi Cofio Dai, sef teyrnged i’r cyflwynydd, y canwr a’r amaethwr uchel ei barch, a fu farw ym mis Mawrth 2022. Roedd Dai Jones Llanilar yn gymeriad adnabyddus a phoblogaidd, un oedd yn llawn hiwmor cynnes a’r hiwmor hwnnw’n byrlymu ar y sgrin fach, y radio ac yn y byd amaethyddol am ddegawdau.

Roedd golygydd y gyfrol hon, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai ac ynghyd â’i weddw, Olwen, lluniwyd rhestr o 22 o gyfranwyr eraill amrywiol sy’n cynnwys enwau adnabyddus fel Yr Athro Wynne Jones, Nia Roberts a Margaret Williams.

Dywedodd Beti Griffiths:

“Gadawodd Dai Jones wacter ar ei ôl ac erys yr hiraeth llethol. Ro’n ni’n ffrindiau agos ac roedd e bob amser yn barod ei gymwynas. Roedd ganddo gof eithriadol ac yn ddi-ddadl roedd yn gyfathrebwr unigryw. Yng ngeiriau’r Prifardd Tudur Dylan Jones ‘Dai frenin ei werin wâr’.”

Mae’r ysgrifau yn y gyfrol wedi eu llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau, ym mhob rhan o’i fywyd – yn gyflwynwyr ac yn gantorion, yn ffrindiau yn lleol ac yn y Sioe Frenhinol.

Disgrifir Dai Jones fel “dyn â’i galon yn ei gymuned” gan Evan Williams, un o’r cyfranwyr, yn “feistr ar nabod pobol” gan Margaret Williams ac “unigryw” gan Lyn Ebenezer.

Meddai Nia Roberts, a fu’n cydweithio gyda Dai ar faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru o 2006 ac sydd wedi cyfrannu pennod at y gyfrol:

“Y gwir amdani yw mai dim ond un Dai fydd yna byth, yr unigryw Dai Llanilar. Diolch amdano.”

Yn wreiddiol o ogledd Llundain, a’i fam a’i dad yn hanu o ardal Lledrod/Llangwyrfon a Thalybont yng Ngheredigion, dychwelodd Dai Jones at ei wreiddiau.

Priododd Olwen yng nghapel Carmel Llanilar yn 1966 a chafodd y pâr fab, John.

Ynghyd â chyflwyno Cefn Gwlad a chyflwyno’r rhaglen Siôn a Siân a’r rhaglen radio Ar Eich Cais, roedd hefyd yn cyflwyno o faes y Sioe Frenhinol yn flynyddol.

Dechreuodd ei yrfa fel canwr ac fe gyrhaeddodd y brig yn 1970 drwy ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a Chanwr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Yn 2004 enillodd BAFTA Cymru am ei gyfraniad i ddarlledu teledu Cymraeg ac yn yr un flwyddyn enillodd wobr fwyaf anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sef gwobr Syr Bryner Jones yn y Sioe am ei gyfraniad i fywyd gwledig.

Mae Cofio Dai a olygwyd gan Beti Griffiths ar gael nawr yn eich siop lyfrau leol (£9.99, Y Lolfa).

Dweud eich dweud