Bon voyage

Dau Gardi i gynrychioli tîm beicio Prydain yn y Gemau Olympaidd

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Stevie-Williams-Photo-2023Israel - Premier Tech
Josh Tarling, INEOS Grenadiers

Llongyfarchiadau i Stevie Williams, Capel Dewi, a Josh Tarling, Ffos-y-ffin, ar gael eu dewis i gynrychioli tîm beicio Prydain yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Bydd Josh Tarling (INEOS Grenadiers) yn cynrychioli Prydain yn y ras yn erbyn y cloc a’r ras ffordd. Enillodd Josh Tarling Bencampwriaeth Prydain i ddynion yn rasio yn erbyn y cloc yn swydd Efrog ychydig dros wythnos yn ôl.

Bydd Stevie Williams (Israel – Premier Tech) yn cynrychioli Prydain yn y ras ffordd ym Mharis. Mae’n cael tymor arbennig eleni ac eisoes wedi ennill y Flèche Wallonne ac fe ddaeth yn ail ar drydydd cymal y Tour de Suisse yn gynharach ym mis Mehefin.

Pob hwyl i’r ddau.

Ymunwch â’r sgwrs

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

Pob hwyl i Stevie Williams yn ei Tour de France cyntaf.