Cofnodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn

Bore Coffi yn codi £1,500

gan Tess Thorp

Ym mis Ebrill, trefnwyd Bore Coffi yn Neuadd Goffa Penparcau gan Nerys Thomas a Siobhan Thomas, Nyrsus y Coluddyn, i gofnodi Mis Ymwybyddiaeth Cancr y Coluddyn. Daeth nifer o bobl i gefnogi’r digwyddiad trwy brynu paned a chacen a chael sgwrs. Casglwyd swm anrhydeddus o £1500. Rhoddwyd swm o £1000 i HAHAV Ceredigion i ddiolch am gael defnyddio eu hadnoddau pan fydd Grŵp Cymorth Cleifion y Coluddyn yn cwrdd yng Nghanolfan Byw’n Dda Plas Antaron bob yn ail fis.

Yn y llun, gwelir o’r chwith i’r dde, Siobhan Thomas, Nyrs y Coluddyn, Rhian Dafydd, Prif Swyddog HAHAV a Nerys Thomas, Nyrs y Coluddyn Arbenigol. Diolch yn fawr iawn am eich rhodd hael.

#codiymwybyddiaeth #canserycoluddyn #gwirfoddoli #diolch #hahavceredigion

www.hahav.org.uk

Dweud eich dweud