Papur Bro Y DDOLEN

Beth am gystadlu yn ein Eisteddfod?

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Prin pythefnos sydd ar ôl gyda chi i gystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol y DDOLEN!

Rydym wedi ailgyflwyno’r Eisteddfod eleni yn dilyn saib o sawl blwyddyn, gan deimlo fod yr amser yn iawn yng nghanol cyfnod clo. Mae hon yn Eisteddfod Gadeiriol, gyda chadair gyfforddus, ddefnyddiol, yn rhoddeddig i enillydd y stori ddigri neu’r gerdd ddigri orau!

Dyma destunau’r adran agored, a’r beirniaid yw Ifan a Dilys Jones, Tregaron.

  1. Limrig: ‘Gwelais yn ystod y cyfnod clo’
  2. Brawddeg: PANTGLAS
  3. Neges mewn potel: cyfarchiad o ddalgylch Y DDOLEN
  4. Erthygl addas i’r papur bro
  5. Deg gair tafodieithol gan egluro eu hystyr
  6. Ffotograffiaeth: Allan yn yr awyr agored
  7. Coginio rhywbeth addas i’w gynnwys mewn picnic (tynnwch lun o’r bwyd a’i anfon atom!)
  8. Cerdd ddigri neu stori ddigri (Gwobr – Y gadair gyfforddus, ddefnyddiol!)

Gwobrau: £5 i gystadlaethau 1-7; Cadair gyfforddus, ddefnyddiol i gystadleuaeth 8

Dyma destunau’r adran plant a phobl ifanc

Mae 4 categori oedran:

  1. Derbyn, Bl.1 a Bl.2
  2. Bl. 3 a 4
  3. Bl. 5 a 6
  4. Bl. 7, 8 a 9

Celf (unrhyw gyfrwng): Fy milltir sgwâr (Beirniad – Lizzie Spikes)

Ysgrifennu Creadigol: Fy arwr (dim mwy na 500 gair) (Beirniad – Geoff a Bethan Davies, Rhydyfelin)

Gwobrau: £5 i’r enillydd ym mhob adran

14 Mawrth yw’r dyddiad cau a dylid anfon eich ceisiadau at y.ddolen@gmail.com neu Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw a manylion cysylltu llawn, os gwelwch yn dda.

Cyhoeddir rhestr o’r enillwyr yn rhifyn Ebrill Y DDOLEN a bydd y cynnyrch yn ymddangos yn y misoedd sy’n dilyn.

Os nad ydych wedi llwyddo i gael gafael ar gopi o rifyn Chwefror – dyma fe i chi. Mae rhifyn Mawrth wedi glanio yn y siopau hefyd ers y penwythnos.

Dyma ddetholiad o rhifyn Chwefor ar ffurf ffeiliau sain:

 

Rhifyn Chwefror Y Ddolen fel PDF:

Dweud eich dweud