Medina yn yr Harbwr

Diweddariad gan fwyty Medina am eu datblygiadau yn Aberystwyth

gan Medina Rees

Mae Medina wedi agor bar dros dro (tu fas) yn y Marina o ddydd Llun yr 2il o Awst.

Byddant ar agor rhwng 10 y bore a 10 yr hwyr bob dydd trwy gydol yr haf (os bydd y tywydd yn caniatáu).

Bar tu allan yw hwn, nid bwyty gan nad oes cyfleusterau cegin yno eto. Bydd cacen a byrbrydau ysgafn, i gyd-fynd ag amrywiaeth o ddiodydd.

Angen staff

Stryd y Farchnad yw cartref Medina ers Mehefin 2016, ac yn parhau yn ganolbwynt y busnes.

Ni fydd y caffi ar Stryd y Farchnad agor ar ddydd Mercher ym mis Awst oherwydd prinder staff cegin. Os ydych yn nabod rhywun â diddordeb mewn ymuno â’r tîm cegin brysur i weithio gyda bwyd ffres bob dydd, cysylltwch drwy Facebook ?

Stryd y Popty

Bydd y siop ar Stryd Y Popty yn agor 6 diwrnod yr wythnos drwy’r yr haf

 

 

  • Llun-Gwener 8.30-6pm
  • Dydd Sadwrn 8.30-5pm

Eisiau bocs i’r cartref?

Mae Medina yn cynnig gwasanaeth bocsys prydau a llysiau parod wythnosol ar-lein sydd yn cludo bob dydd Iau ?. Cysylltwch drwy’r wefan.

 

Pob lwc i Medina a phawb o’r tîm. Daliwch ati.