Byd bach

Gyda’r filltir sgwar bellach wedi troi’n ddwy fetr, mae’n dda gallu gwerthfawrogi’r pethau bychain 

gan Iestyn Hughes

Dyma ‘ddyddiadur’ darluniadol lliwgar gan Iestyn Hughes o’r cyfnod caethiwus presennol, o’r ‘lockdown’ cyntaf, ymlaen i gyfnod o orfod cysgodi y tu fewn i ffiniau’r tŷ a’r ardd.

 

Mae pleser mawr i’w gael o ailddarganfod y pethau bychain o fyd natur sydd o’n cwmpas.

Os oes gennych ffôn clyfar diweddar, neu gamera gyda gosodiad ’macro’, beth am i chi fynd ati i ddal prydferthwch y ‘pethau bychain’ – y creaduriaid bach, megis y gwenyn a’r gloÿnnod, y petalau neu’r dail sy’n harddu’n byd? Neu, os oes gennych lens ‘zoom’, beth am geisio dal yr adar bach (a mawr!) sydd ar hyn o bryd yn brysur yn nythu o’n cwmpas?