BroAber360

Stondin nesa’r ffair grefftau: Charlotte Baxter

Posted by BroAber360 on Friday, 12 June 2020

Stondin cynta’r Ffair Grefftau: Celf Catrin Manon

Posted by BroAber360 on Friday, 12 June 2020

Mae’r Ffair Grefftau… AR AGOR!

Croeso i Ffair Grefftau gyntaf BroAber360!

Mae rhai o grefftwyr gorau’r fro wedi dod at ei gilydd dan faner Crefftwyr Aberystwyth i arddangos a gwerthu eu cynnrch arbennig.

Gydol y prynhawn byddwn yn helpu’r criw i rannu gwybodaeth am bob stondin. A’ch rôl chi? Prynu!

Achos mae prynu’n lleol am helpu’r gymdeithas leol…

Trydydd sesiwn yn y gyfres creu pypedau

Mwynhewch!

Ail ran y sesiwn creu pypedau

Rhowch wybod sut hwyl chi’n cael ar greu pypedau gyda Jeremy!

Sesiwn creu pypydau

Dyma’r cyntaf o dri sesiwn creu pypedau gan Gwmni Theatr Arad Goch!

Pnawn o sesiynau gan bobol y fro

Croeso i ffrwd Diweddaraf BroAber360 – y lle i weld llwyth o sesiynau gwahanol trwy’r pnawn.

A’r cyfan wedi’u creu gennych chi – bobol y fro!

Ras feics rithiol – holwch gwestiynau i Gruff

Griff Lewis yw Pencampwr presennol Cymru am reidio ar y rhewl.

Mae’r beiciwr o Dal-y-bont yn cymryd rhan mewn reid rithiol sydd wedi’i drefnu’n arbennig ar gyfer BroAber360 heddiw!

Gwyliwch y cyfan ar Facebook BroAber360, a holwch gwestiynau i Gruff trwy adael sylw.

Maen nhw newydd fod yn trafod sut byddan nhw’n cael brêc i fynd i’r tŷ bach!

Reid feics rithiol – nawr yn fyw!

Mae Shelley Childs yn ein harwain ni drwy iwtopia mewn ras feics ddigidol – lle mae pawb yn reidio yn erbyn ei gilydd o’u cartrefi!

Gallwch wylio’r cyfan yma heddiw!